Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5773
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i
Gymru dros y pum mlynedd nesaf; a
b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru
yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi.
2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth
gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i
fuddsoddi ynddynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
30 |
40 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r feirniadaeth ynghylch strategaeth mewnfuddsoddi
Llywodraeth Cymru yn adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Selling Wales: The Role of
Agencies in Attracting Inward Investment'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
21 |
41 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
'datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu
buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru.'
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n
ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn
gyson.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
0 |
39 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu
i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth gorfforaeth yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
30 |
0 |
40 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5773
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i
Gymru dros y pum mlynedd nesaf;
b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru
yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi;
c) datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i
gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru;
a
d) sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru
sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn
gyson.
2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth
gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i
fuddsoddi ynddynt ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i
Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth
gorfforaeth yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
10 |
20 |
39 |
Gwrthodwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 04/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 03/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad