Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5785
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda
dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.
2. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU
i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o
arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella
cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu fel
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y
cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella
gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
1 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd
â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn
cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant
priodol mewn gofal i gleifion â dementia.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5785
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda
dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.
2. Yn cydnabod y
cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella
gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
3. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU
i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o
arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella
cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd
â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn
cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant
priodol mewn gofal i gleifion â dementia.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 18/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad