Manylion y penderfyniad
Welsh Conservatives Debate
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4845 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud economi wledig Cymru yn fwy cystadleuol drwy wneud gwelliannau mewn seilwaith;
b) diogelu dyfodol Cymru wledig drwy helpu busnesau gwledig i gynyddu nifer y swyddi a chynorthwyo pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig; ac
c) ymrwymo i adolygu’r holl reoliadau a’r fiwrocratiaeth sy’n effeithio ar yr economi wledig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 09/11/2011
Dyddiad y penderfyniad: 09/11/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad