Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5820 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth
digonol i fusnesau Cymru.
2. Yn mynegi pryder dwfn dros golli swyddi mewn busnesau sy'n derbyn
cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn credu bod y broses o ddiwydrwydd dyladwy a ddefnyddir gan
Lywodraeth Cymru cyn darparu cymorth grant ar gyfer busnesau wedi bod yn
annigonol.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i wario arian cyhoeddus yn
effeithiol i gefnogi busnesau Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'i
methiannau o ran cymorth busnes, gan gynnwys ail-flaenoriaethu er mwyn darparu
mwy o gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
41 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a
rhoi yn ei le:
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gefnogi anghenion ariannu busnesau Cymru drwy sefydlu banc datblygu busnes i
Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fynd i'r afael â baich ardrethi busnes drwy ymestyn y cynllun rhyddhad
ardrethi i fusnesau bach.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau cyfleoedd masnach newydd i fusnesau yng Nghymru drwy weithredu menter
masnach tramor Plaid Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 5:
', gwell mynediad at gyllid a galluogi
cymorth a chyngor busnes o ansawdd uchel'
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
10 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod
y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2015
Dyddiad y penderfyniad: 16/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad