Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 14.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5825 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod
ystadegau diweddar y Local Data Company yn nodi bod 15.6 y cant o siopau yn wag
yn nhrefi Cymru, sef y gyfradd uchaf yn y DU o bell ffordd;
2. Yn gresynu at fethiant
parhaus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo strydoedd mawr a chanol trefi, helpu
busnesau bach a sicrhau bod swyddi'n cael eu creu; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried o ddifrif y cynigion a amlinellir yn nogfennau'r Ceidwadwyr Cymreig,
‘A Vision for the Welsh High Street' ac 'Invest Wales', a fyddai'n helpu
busnesau bach a chanolig ac yn adfywio ein strydoedd mawr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu
i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r stryd fawr drwy sicrhau bod
cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau trafnidiaeth llesol yn
wirioneddol hygyrch; cymhwyso ardrethi busnes i feysydd parcio mewn unedau
adwerthu ar gyrion trefi; ac annog awdurdodau lleol i dreialu parcio am ddim
cyfyngedig i gefnogi strydoedd mawr sy'n cael trafferthion.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
annog awdurdodau lleol i weithio ar arallgyfeirio eu strydoedd mawr er mwyn
cynyddu nifer y bobl sy'n eu defnyddio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ystyried ystod eang o fesurau i helpu busnesau bach, gan gynnwys y rhai sydd ar
y stryd fawr, a fydd yn hwyluso mynediad at gyllid ac yn ymestyn rhyddhad
ardrethi busnes.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5825 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod
ystadegau diweddar y Local Data Company yn nodi bod 15.6 y cant o siopau yn wag
yn nhrefi Cymru, sef y gyfradd uchaf yn y DU o bell ffordd;
2. Yn gresynu at fethiant
parhaus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo strydoedd mawr a chanol trefi, helpu
busnesau bach a sicrhau bod swyddi'n cael eu creu; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried o ddifrif y cynigion a amlinellir yn nogfennau'r Ceidwadwyr Cymreig,
‘A Vision for the Welsh High Street' ac 'Invest Wales', a fyddai'n helpu
busnesau bach a chanolig ac yn adfywio ein strydoedd mawr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i annog awdurdodau lleol i weithio ar arallgyfeirio eu strydoedd mawr er mwyn
cynyddu nifer y bobl sy'n eu defnyddio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried ystod eang o fesurau i helpu busnesau bach, gan gynnwys y rhai sydd
ar y stryd fawr, a fydd yn hwyluso mynediad at gyllid ac yn ymestyn rhyddhad
ardrethi busnes.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2015
Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad