Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhan bwysig
y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o
wasanaethau cyhoeddus.
2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yn barhaus i ddarparu cymorth i
awdurdodau lleol er mwyn atal cynnydd mewn biliau treth gyngor;
3. Yn nodi mai'r band
treth gyngor D cyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2015-16 yw £1,328 a bod
teuluoedd ar eu colled o £546 yn ystod y pedwerydd Cynulliad o ganlyniad i'r
ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhewi'r dreth gyngor;
4. Yn credu y bydd pobl
yng Nghymru yn amau'r gwerth am arian a ddarperir gan lawer o wasanaethau
awdurdodau lleol yn dilyn y cynnydd hwn yn y dreth gyngor; a
5. Yn credu ymhellach
bod angen gwneud mwy yng Nghymru i fanteisio ar y rôl y gall mudiadau trydydd
sector ei chwarae yn y broses o ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin
Jones (Ceredigion)
Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau
awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar
drywydd polisïau llymder.
Yn credu y dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y
rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn
gwasanaethau a swyddi lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhan bwysig
y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o
wasanaethau cyhoeddus.
2. Yn gresynu at y
goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd
Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.
3. Yn credu y dylai
awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu
hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 30/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad