Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi na chyrhaeddwyd
y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010;
2. Yn gresynu at effaith
andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd
bywyd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser
atgyfeirio am driniaeth.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
29 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i
leihau amseroedd aros.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3:
'a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd
amserol drwy gydol eu gofal.'
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi na chyrhaeddwyd
y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010;
2. Yn gresynu at effaith
andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd
bywyd; a
3. Yn cydnabod
pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd aros.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser
atgyfeirio am driniaeth a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd
amserol drwy gydol eu gofal.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 30/09/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad