Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.43
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5843 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu
anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1
– Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad Cymru
yn ddiweddar.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
Gwelliant 1.
Gwelliant 2
– Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cyfarfod brys gyda banciau manwerthu mawr i
annog cefnogaeth ar gyfer model bancio cymunedol a sicrhau presenoldeb bancio
lleol cynaliadwy mewn cymunedau gwledig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 2.
Gwelliant 3
– Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint o
ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad
Sylfaenol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
Gwelliant 3.
Gwelliant 4
– Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw am gynllun o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n cynnig cyllid mwy hygyrch
ar raddfa fach i wella gwydnwch ac effeithlonrwydd ffermydd Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 4.
Gwelliant 5
– Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw am ddileu'r rheol chwe diwrnod ar wahardd symud yn gynnar.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio
NDM5843 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu
anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.
2.
Yn gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad
Cymru yn ddiweddar.
3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint
o ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad
Sylfaenol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad