Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.08
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5869 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae
pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru;
2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl
hŷn yng Nghymru;
3. Yn gresynu nad yw pobl hŷn sy'n dymuno
dychwelyd i'r gweithlu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at yr un lefel o
gymorth â phobl iau;
4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at
drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd
cymdeithasol ac economaidd; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r
gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael
iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
37 |
47 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith yr
amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn cyflogaeth,
addysg na hyfforddiant (NEET) tair gwaith cymaint â nifer y bobl NEET o dan 25
oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu rhaglen benodol i
wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad ydynt mewn
cyflogaeth, addysg na hyfforddiant .
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gan weithwyr
iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r
gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth ac y dylai rhaglenni
cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt 5 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at ffaith y
gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd
ar gael i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5869 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae
pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru;
2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl
hŷn yng Nghymru;
3. Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth
cyflogaeth ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny.
4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at
drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd
cymdeithasol ac economaidd; a
5. Yn gresynu at ffaith y gallai toriadau i gyllidebau
awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl
hŷn i fyw'n annibynnol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r
gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael
iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio
Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad