Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cofio ac yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid;

2. Yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol sy'n ddyledus iddynt gan bobl ledled Cymru;

3. Yn credu y byddai sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn sicrhau gwasanaethau a chanlyniadau gwell i gymuned y Lluoedd Arfog;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu cerdyn cyn-filwyr, yn cynnig cyfres o fuddion i bersonél y gwasanaethau a chyn-filwyr i gydnabod eu gwasanaeth;

b) gweithredu asesiad o anghenion cyn-filwyr fel sail ar gyfer cyflenwi gwasanaethau; ac

c) diogelu cyn-filwyr a anafwyd cyn mis Ebrill 2005 drwy sicrhau nad yw eu Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei gymryd oddi wrthynt pan fyddant yn cael gofal cymdeithasol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

37

47

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pob dim ar ôl pwynt 2 a rhoi yn eu lle:

3. Yn croesawu'r ffaith fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Hyrwyddwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog;

4. Yn croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru;

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y Lluoedd Arfog.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

9

14

47

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd Gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cofio ac yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid;

2. Yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol sy'n ddyledus iddynt gan bobl ledled Cymru;

3. Yn croesawu'r ffaith fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Hyrwyddwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog;

4. Yn croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru;

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y Lluoedd Arfog.

6. Yn croesawu cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

9

10

46

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio

Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2015

Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad