Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 17.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5870 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y
drutaf yn y byd datblygedig;
2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal
plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi
cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson
o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
28 |
47 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1– Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar
gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i
ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a
chynllun peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
10 |
9 |
47 |
Derbyniwyd
Gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5870 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y
drutaf yn y byd datblygedig;
2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal
plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi
cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson
o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru;
5. Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar
gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i
ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun
peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
19 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad