Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.46
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5888 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod lefelau sbwriel, cŵn
yn baeddu, tipio anghyfreithlon a graffiti yn parhau i fod yn bla ar lawer o
gymunedau lleol ledled Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag
awdurdodau lleol i edrych ar gynyddu cosbau ar gyfer troseddau amgylcheddol; a
3. Yn cydnabod y rôl y gall ailgylchu ei chwarae yn
y broses o leihau gwastraff a sicrhau cymunedau glanach ledled Cymru ac yn
annog Llywodraeth Cymru i edrych ar atebion arloesol i hybu ailgylchu
ymhellach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
15 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad