Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5896 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod busnesau bach yn rhan annatod o
economïau cenedlaethol a chymunedol Cymru;
2. Yn croesawu'r rôl y mae Dydd Sadwrn Busnesau
Bach yn ei chwarae o ran hyrwyddo busnesau bach Cymru;
3. Yn cydnabod y cyfraniad y mae busnesau bach yn
ei wneud tuag at sicrhau hunaniaeth cymunedau lleol a hyrwyddo eu diwylliant
a'u treftadaeth unigryw;
4. Yn cydnabod bod busnesau bach, lleol yn darparu
porth i gyflogaeth i lawer o bobl ifanc; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnig pecyn cymorth gwell i fusnesau bach i
wella eu cyfraniad i fywyd economaidd-gymdeithasol Cymru;
b) datblygu seilwaith ledled Cymru i wasanaethu
rhagolygon twf busnesau bach yng Nghymru yn well.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
7 |
45 |
Derbyniwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2015
Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad