Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cymunedau
ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn
talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r
cymunedau hynny;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd
gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i
ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi
effeithio arnynt, gan gynnwys:
a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad
ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;
b) adolygu sut y mae'r
Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut
y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;
c) darparu rhyddid ychwanegol
i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio
ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a
d) asesu sut y gall y rhaglen
datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr
effeithir arnynt gan lifogydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad
llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein
gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd
eithafol a llifogydd yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ar ddechrau is-bwynt 3c),
mewnosoder:
'adolygu'r dystiolaeth ar
gyfer'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 3:
Hyrwyddo cynlluniau i liniaru
ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy
blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu
cronfeydd llifogydd diogel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael
llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cymunedau
ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn
talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r
cymunedau hynny;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd
gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i
ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a
3. Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad
llifogydd.
4. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein
gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd
eithafol a llifogydd yn y dyfodol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi
effeithio arnynt, gan gynnwys:
a) archwilio hyfywedd darparu
rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;
b) adolygu sut y mae'r
Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut
y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;
c) adolygu'r dystiolaeth ar
gyfer darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw
waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a
d) asesu sut y gall y rhaglen
datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr
effeithir arnynt gan lifogydd.
e) hyrwyddo cynlluniau i
liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys
drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu
cronfeydd llifogydd diogel.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael
llifogydd.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2016
Dyddiad y penderfyniad: 20/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad