Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5934 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi setliad llywodraeth leol drafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17;
2. Yn gresynu at gynigion i dorri'n sylweddol y
cyllid a delir i nifer o awdurdodau lleol sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd
gwledig ledled Cymru ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei
gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol a chyfraddau'r dreth gyngor;
3. Yn gresynu ymhellach at fethiant Llywodraeth
Cymru i ymgysylltu'n ddigonol â llawer o awdurdodau lleol gwledig ledled Cymru
a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch effaith setliad llywodraeth leol
2016-17, sydd wedi arwain at ansicrwydd mawr mewn sawl rhan o Gymru; a
4. Yn credu bod archwilio'r fformiwla sy'n dyrannu
cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn angenrheidiol i sicrhau na fydd
setliadau Llywodraeth Cymru yn cael
effaith anghymesur ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn
unol â hynny:
Yn galw am gyflwyno, yn y setliad hwn, y grant
sefydlogi gwledig a gynigiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod diwygio llywodraeth leol yn gyfle i
gytuno ar fformiwla ariannu newydd sy'n ystyried tegwch, amddifadedd a
theneurwydd poblogaeth ac sy'n cael ei chyflwyno dros gylch ariannu tair
blynedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2016
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad