Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4899 William
Graham (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi ac ymestyn disgyblion o bob gallu er mwyn gwella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws Cymru;
2. Yn gresynu nad yw gallu nifer o ddisgyblion galluog a thalentog yn cael ei herio ddigon yn ysgolion Cymru; a
3: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau gorau yng Nghymru, fel mater o frys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1- Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘, gan ddechrau yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 2
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yng Nghymru er 1999.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r £20 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer y Gronfa Amddifadedd Disgyblion y cytunwyd arno yng nghyllideb derfynol mis Rhagfyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn monitro’r gronfa i sicrhau y bydd yn cael ei defnyddio i wella safonau addysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
8 |
13 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod data am ‘Wariant a Gyllidebwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Ysgolion: Cymhariaeth Cymru/Lloegr’ yn parhau i fod ar gael er mwyn sicrhau bod modd monitro gwariant i wella safonau addysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4899 William
Graham (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi ac ymestyn disgyblion o bob gallu er mwyn gwella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws Cymru, gan ddechrau yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
2. Yn croesawu’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yng Nghymru er 1999.
3. Yn croesawu’r £20 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer y Gronfa Amddifadedd Disgyblion y cytunwyd arno yng nghyllideb derfynol mis Rhagfyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn monitro’r gronfa i sicrhau y bydd yn cael ei defnyddio i wella safonau addysgol.
4. Yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod data am ‘Wariant a Gyllidebwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Ysgolion: Cymhariaeth Cymru/Lloegr’ yn parhau i fod ar gael er mwyn sicrhau bod modd monitro gwariant i wella safonau addysgol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/01/2012
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad