Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4930 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf.
2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.
3. Yn gresynu’n fawr wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau Cymru, gan wrthod y cyfle i'r 22 awdurdod lleol rewi'r dreth gyngor.
4. Yn gresynu ymhellach yr amcangyfrifir y bydd y dreth gyngor yng Nghymru yn cynyddu bron i 2.2 y cant ar gyfartaledd dros y flwyddyn nesaf.
5. Yn mynegi siom nad yw'r rhan fwyaf o gartrefi Cymru wedi cael cymorth gyda chostau byw beunyddiol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i awdurdodau lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
40 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1, dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘y flwyddyn nesaf’ rhoi ‘ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi’r canlynol yn eu lle:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.
Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.
Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 5 a 6 eu dad-ddethol.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4930 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad.
2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.
3. Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.
4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.
5. Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.
6. Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.
7. Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 07/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad