Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.19.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4963 William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian.
2. Yn cymeradwyo unrhyw
ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu
gwerth am arian y trethdalwyr;
3. Yn nodi ymhellach
fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth
Leol; a
4. Yn gresynu wrth
fethiant Llywodraeth Cymru i arwain drwy esiampl wrth
yrru’r agenda gwerth am arian yn ei
blaen.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r gwerth am arian sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau a arweinir gan y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi’u galluogi i sicrhau codiadau isel yn y dreth gyngor dros y pedair blynedd diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
9 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4963 William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian.
2. Yn cymeradwyo unrhyw
ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu
gwerth am arian y trethdalwyr; a
3. Yn nodi ymhellach
fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth
Leol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/04/2012
Dyddiad y penderfyniad: 25/04/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/04/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad