Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:36.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4977 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnwys y papur ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newid’ a gyflwynwyd i gabinet Llywodraeth Cymru ar 13 Mawrth 2012.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â rhannu ei bwriad â phobl Cymru tan nawr ynghylch dyfodol y GIG yng Nghymru.
Gellir gweld ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newid’ drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetmeetings/4thassembly/13mar12/?skip=1&lang=cy
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
27 |
46 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu manylion llawn y newidiadau arfaethedig ar y cyfle cyntaf er mwyn hwyluso dadleuon ar sail gwybodaeth ar lefel leol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad
wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r
cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 09/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad