Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.45
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5839 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno model cadw
pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd;
2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ar sail model
cadw pwerau;
3. Yn gwrthod unrhyw fodel cadw
pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y
trefniadau presennol;
4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y fframwaith
cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o weithredu'r
model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a
5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona i gyd-fynd â
chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 07/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad