Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:41.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4986 William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;
2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;
b) gwella tryloywder ei pholisïau; ac
c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
32 |
54 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw gweithredu’r cynllun Glastir wedi adlewyrchu pryderon y sector coedwigaeth yn ddigonol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
10 |
27 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4986 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;
2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;
b) gwella tryloywder ei pholisïau;
c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat; a
d) sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 17/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 16/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad