Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14:16
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu nad yw ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
32 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu yw ‘lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu nad yw ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru.
Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu yw ‘lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2012
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/09/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad