Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17:01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5068 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion amrywiol holl blant Cymru.
2. Yn nodi:
a) bod lefel y tlodi plant yng Nghymru yn uwch na holl wledydd eraill y DU;
b) bod cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU, a bod bylchau cyrhaeddiad allweddol wedi tyfu; a
c) bod nifer o anghydraddoldebau iechyd yn bodoli rhwng plant yng Nghymru a gweddill y DU.
3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn methu â chyflenwi’r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae eu hangen i helpu plant i gyflawni eu potensial llawn.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
34 |
45 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei
ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau plant a phobl ifanc a’r buddsoddiad sylweddol y mae wedi ei wneud er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i blant, er enghraifft ehangu Dechrau’n Deg, a’i chymorth i helpu plant i gyflawni eu potensial.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
21 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar blant sydd eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
15 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu cyflwyno'r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
17 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu y bydd ffocws newydd ar wella tai ac iechyd y cyhoedd mewn ardaloedd o amddifadedd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd rhwng plant yng Nghymru a phlant yng ngweddill y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Estyn yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso’r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl i leddfu effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5068 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion amrywiol holl blant Cymru.
2. Yn nodi’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau plant a phobl ifanc a’r buddsoddiad sylweddol y mae wedi ei wneud er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i blant, er enghraifft ehangu Dechrau’n Deg, a’i chymorth i helpu plant i gyflawni eu potensial.
3. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar blant sydd eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru.
4. Yn croesawu cyflwyno'r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru.
5. Yn credu y bydd ffocws newydd ar wella tai ac iechyd y cyhoedd mewn ardaloedd o amddifadedd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd rhwng plant yng Nghymru a phlant yng ngweddill y DU.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Estyn yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso’r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl i leddfu effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol plant.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
15 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad