Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5134 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi’r llifogydd difrifol a effeithiodd ar
Gymru gyfan yn 2012 a’r distryw
a achoswyd mewn cymunedau ledled Cymru.
2.
Yn cydnabod gwaith ardderchog y gwasanaethau brys a chryfder yr ysbryd
cymunedol wrth fynd i’r afael
ag effeithiau
llifogydd difrifol.
3.
Yn cydnabod pwysigrwydd dull gweithredu ar draws portffolios i reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygu ar orlifdiroedd yn cael ei
adolygu fel elfen ganolog o’r
Bil Cynllunio.
5.
Yn galw ymhellach
ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd
y bydd y corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cefnogi ac yn
rheoli’n effeithiol bob ymdrech i fynd i’r afael â llifogydd
yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
39 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘ac yn mynegi gofid y bydd graddfa ac amlder digwyddiadau
o’r fath yn siwr o gynyddu wrth i’n hinsawdd newid ac wrth i lefelau’r môr
godi’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
‘a manteision gwybodaeth leol wrth lunio arferion rheoli
tir effeithiol, i leihau nifer yr achosion o lifogydd’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gefnogi’r gwaith o sefydlu Fforwm Llifogydd ar gyfer
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 4, dileu popeth ar
ôl ‘yn cael
ei adolygu’ a rhoi yn ei
le ‘fel rhan o’i pholisi cynllunio’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
5 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd
pwynt 4:
‘a bod
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 yn cael ei ddiwygio
ar frys er
mwyn sicrhau ei fod yn
cyd-fynd â pholisi a deddfwriaeth gyfredol'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar
Lywodraeth y DU i drafod telerau Datganiad Egwyddorion diwygiedig ar lifogydd gyda
chwmnïau yswiriant, gan fod y Datganiad
Egwyddorion presennol yn dod i
ben ar 30 Mehefin 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiystyru cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r llifogydd diweddar
yn Sir Ddinbych.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu fel
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r ymchwiliad annibynnol sy’n cael ei gomisiynu
gan Gyngor Sir Ddinbych i’r llifogydd
diweddar a chyflwyno tystiolaeth iddo.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5134 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi’r llifogydd difrifol a effeithiodd ar Gymru gyfan yn
2012 a’r distryw a achoswyd mewn cymunedau
ledled Cymru ac yn mynegi gofid y bydd graddfa ac amlder digwyddiadau o’r fath yn siwr o
gynyddu wrth i’n hinsawdd newid ac wrth i lefelau’r môr godi.
2.
Yn cydnabod gwaith ardderchog y gwasanaethau brys a chryfder yr ysbryd
cymunedol wrth fynd i’r afael
ag effeithiau
llifogydd difrifol.
3.
Yn cydnabod pwysigrwydd dull gweithredu ar draws portffolios i reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a
manteision gwybodaeth leol wrth lunio arferion rheoli tir effeithiol, i leihau
nifer yr achosion o lifogydd.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygu ar orlifdiroedd yn cael ei
adolygu fel rhan o’i pholisi
cynllunio.
5.
Yn galw ymhellach
ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd
y bydd y corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cefnogi ac yn
rheoli’n effeithiol bob ymdrech i fynd i’r afael â llifogydd
yng Nghymru.
6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth
y DU i drafod telerau Datganiad Egwyddorion diwygiedig ar lifogydd
gyda chwmnïau yswiriant, gan fod y Datganiad Egwyddorion presennol yn dod i
ben ar 30 Mehefin 2013.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 17/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad