Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 17.02
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli
99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig.
2.
Yn mynegi pryder nad
oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn
ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.
3.
Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu
cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid.
4.
Yn cydnabod gwerth creu partneriaethau
rhwng Llywodraeth Cymru a banciau’r stryd fawr, neu
sefydliadau ariannol eraill, er mwyn
darparu cyllid cyhoeddus i fusnesau lleol yn effeithiol
ac yn effeithlon.
5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau’r cynigion sydd wedi’u
hamlinellu yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi
Cymru’ a, phan fo’n briodol, ystyried
eu hymgorffori yng nghymorth Llywodraeth
Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
41 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu ar
ddiwedd pwynt 3:
‘a deall anghenion
ariannol busnesau lleol’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
1 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu
wrth ddiffyg cynnydd Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg
arian i fusnesau
bach a chanolig.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
18 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo’r
pwyntiau’n unol â hynny:
Yn nodi
adolygiad Llywodraeth Cymru o argaeledd cyllid ar gyfer
busnesau bach a chanolig yng Nghymru
ac yn gresynu wrth y diffyg cynrychiolwyr
o fusnesau bach a chanolig ar y panel cynghori.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n eiddo
i’r cyhoedd fel rhan o’i
hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
5 |
13 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle ac ystyried
rhinweddau cynnig cyllid drwy farchnad
Funding Circle, fel rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer
busnesau bach a chanolig.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli
99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig.
2.
Yn mynegi pryder nad
oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn
ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.
3.
Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu
cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid a deall anghenion ariannol busnesau lleol.
4.
Yn gresynu wrth ddiffyg cynnydd
Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg arian i fusnesau
bach a chanolig.
5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n
eiddo i’r cyhoedd fel rhan
o’i hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid.
6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle
ac ystyried rhinweddau cynnig cyllid drwy
farchnad Funding Circle, fel
rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer busnesau
bach a chanolig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
18 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 30/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad