Cyfarfodydd

CLA417 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

NDM5649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dim pwyntiau adrodd

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.11

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

5

51

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 07/07/2014 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 CLA417 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi; Fe’u gosodwyd ar: 24 Mehefin 2014; Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2014

 

 

CLA(4)-19-14 – Papur 4 – Rheoliadau

CLA(4)-19-14 – Papur 5 – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-19-14 – Papur 6 – Adroddiad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.