Cyfarfodydd
Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)
Dadl ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 - Dyletswydd i Adolygu - Adroddiad Terfynol
NDM5971 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu
Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Dogfen Ategol
Mesur
Iechyd Meddwl (Cymru) - Dyletswydd i Adolygu – Adroddiad Terfynol
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhestrau
aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o
uchel.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith
bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau
seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am
amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.49
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.
Derbyniwyd gwelliant 1
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros
cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn
galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau
seicolegol.
Derbyniwyd gwelliant 2
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad
Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
2. Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.
3. Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd
aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir
ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer
ymyriadau seicolegol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
NDM5709
David Rees (Aberafan)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.
Dogfennau Ategol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM5709 David Rees (Aberafan)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl
deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
15 Ionawr 2015.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.
The motion was agreed in accordance with
Standing Order 12.36.
Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: ystyried yr adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
- Cyfyngedig 8 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/2)
Cofnodion:
4.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar
Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.
Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol.
Cyfarfod: 20/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Cyfarfod: 20/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Dr Sarah Watkins, Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac
Agored i Niwed / Uwch Swyddog Meddygol
Andrea Gray, Rheolwr Deddfwriaeth Iechyd Meddwl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
- HSC(4)-28-14 Papur 3, Eitem 4 PDF 657 KB Gweld fel HTML (4/2) 186 KB
Cofnodion:
4.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.
Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Trafod y dystiolaeth ysgrifenedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
- Cyfyngedig 24 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/2)
Cofnodion:
5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig.