Cyfarfodydd

HR Payroll Project

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Adolygiad Adnoddau Dynol/Y Gyflogres - Papur 2 a atodiad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

 

Croesawyd Gareth Watts (y Pennaeth Archwilio Mewnol) i’r cyfarfod i gyflwyno canfyddiadau’r adroddiad archwilio mewnol ar y prosiect Adnoddau Dynol / y Gyflogres. Roedd yr adolygiad yn edrych yn fanwl ar agweddau allweddol ar lywodraethu a rheoli cam 1 y prosiect, a nodwyd meysydd y dylid rhoi sylw iddynt cyn symud ymlaen i gam 2. Roedd y prosiect wedi cyflawni hunanwasanaeth ymarferol ar gyfer y gyflogres ac AD yn rhannol, er gwaethaf anawsterau, fel llithriant o ran amserlenni cyflawni. Roedd yr adroddiad yn nodi rhai ffactorau a oedd wedi cyfrannu at yr anawsterau, a gwahoddodd Gareth sylwadau gan y Bwrdd o ran argymhellion yr adroddiad.

 

Cytunodd y Bwrdd fod angen deall pam y cafwyd y problemau, a chafwyd sgwrs am y gwersi a ddysgwyd, a sut y gellid eu cymhwyso i brosiectau yn y dyfodol. Gwnaed yr argymhellion a ganlyn:

 

• Y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau i gadarnhau’r adnoddau sy’n ofynnol, y buddsoddiad, yr arbenigedd o ran staff, a chwmpas pob prosiect mawr newydd;

 

• mabwysiadu’r cwestiynau herio a chraffu allweddol, a luniwyd gan Gareth Watts, fel dull o asesu prosiectau yn y dyfodol, gan gynnwys cam 2 y prosiect Adnoddau Dynol / y Gyflogres;

 

• gweithredu system mentor ar gyfer rheolwyr prosiect newydd a datblygu proses o ddethol a hyfforddiant ar gyfer staff, gan gynnwys Uwch Swyddogion Cyfrifol;

• sicrhau bod negeseuon allweddol i staff yn glir, gan nodi disgwyliadau rhesymol; cael adborth drwy brofion gyda defnyddwyr; a

        sicrhau bod y rhai sy’n ymwneud ag ymdrin â chontractwyr yn brofiadol, ac wedi’u paratoi i herio’n briodol yn ôl yr angen.

Byddai’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn edrych ar yr adroddiad yn eu cyfarfod nesaf ar 10 Tachwedd.

 

Camau i’w cymryd:

• Gareth Watts a Virginia Hawkins i ystyried sut i gyfleu’r neges ynghylch y gwersi a ddysgwyd i staff, gan gynnwys cyfrannu at arferion gwaith ar gyfer rheolwyr y prosiect, a pharatoi neges ar gyfer staff; ac

• Adolygu’r canllawiau a’u mabwysiadu’n ffurfiol; dylid cynnwys disgrifiad swydd a llythyr dirprwyo gan y Prif Weithredwr at bob Uwch Swyddog Cyfrifol newydd, yn amlinellu’r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau.