Cyfarfodydd

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Newidiadau i'r Cynllun Taliad Sylfaenol: Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Rebecca Evans, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd                         

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a’r Môr

 

E&S(4)-05-15 Papur 1

E&S(4)-05-15 Papur 1 Atodiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog gytuno i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am oblygiadau cyllidebol o fewn ei chyllideb o ganlyniad i’r newidiadau i’r Cynllun Taliad Sylfaenol.


Cyfarfod: 13/03/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gwilym Jones, Aelod o Gabinet Comisiynydd Amaethyddiaeth yr UE

Gwilym Jones, Aelod o Gabinet, Comisiynydd Amaethyddiaeth yr UE

Dogfennau ategol:

  • Dogfen briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

7.1 Bu Gwilym Jones yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 23/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Diwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Tystiolaeth gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd

E&S(4)-02-14 papur 1

 

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd - y Polisi Amaethyddol Cyffredin: Trosglwyddo cyllidebau rhwng pileri

E&S(4)-01-14 papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 26/09/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Dogfennau ategol:

  • Crynodeb o waith (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i'w gyhoeddi fel cofnod o'i waith.

 


Cyfarfod: 17/07/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Trafodaeth

          Ed Bailey, NFU Cymru

Keri Davies, Grŵp Organig Cymru

          Sue Evans, Cymdeithas y Tirfeddianwyr

Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru

Brian Pawson, Cyfoeth Naturiol Cymru

Arfon Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Dogfennau ategol:

  • Papur briffio y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Nick Fenwick i ddarparu copi o’r ffigurau a gynhyrchwyd gan Brifysgol Bangor ynghylch incwm o dwristiaeth bywyd gwyllt.

 

3.3 Cytunodd Nick Fenwick, Brian Pawson ac Arfon Williams i ddarparu rhagor o wybodaeth yn ysgrifenedig am incwm a gollwyd mewn perthynas â chynlluniau amaeth-amgylcheddol.

 


Cyfarfod: 11/07/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cynigion i ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin – trafodaeth ar y sefyllfa diweddaraf

Dermot Ryan, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i'r UE

Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

  • Papur briffio y Gwasanaeth Ymchwil - PAC

Cofnodion:

5.1 Bu Dermot Ryan yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Cynigion i ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin – y wybodaeth ddiweddaraf

Dermot Ryan, Cynrychiolydd Parhaol Iwerddon i'r UE

Gregg Jones,  Pennaeth Swyddfa UE Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Bu Dermot Ryan yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cynigion i ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin – trafodaeth

E&S(4)-05-13 papur 1 – Cyswllt Amgylchedd Cymru

 

Emily Keenan, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Cynghorydd Dilwyn Roberts, Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Arfon Williams, RSPB Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cynigion i ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin – trafodaeth

         

          Ed Bailey, NFU Cymru

Keri Davies, Grŵp Organig Cymru

Sue Evans, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

          Emma Hockridge, Cymdeithas y Pridd

          Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru

         

 

Cofnodion:

4.1 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Cynigion i ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin – trafodaethau gydag Aelodau o Senedd Ewrop

         

Jill Evans ASE

          Derek Vaughan ASE

Daniel Dalton, Cynghorydd ECR Senedd Ewrop ar amaethyddiaeth

 

Cofnodion:

2.1 Bu'r Aelodau o Senedd Ewrop a Daniel Dalton yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 19/07/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Polisi Amaethyddol Cyffredin - llythyr drafft

Dogfennau ategol:

  • Llythyr drafft i randdeiliaid (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin.


Cyfarfod: 15/03/2012 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Trafodaeth gyda'r Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth a Bwyd (Defra)

Y Gwir Anrhydeddus Jim Paice AS, Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth a Bwyd (Defra)

 

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen am y diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.


Cyfarfod: 12/01/2012 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - adroddiad drafft y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyron drafft gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin i Lywodraeth Cymru a chytuno i’r rapporteur ar gyfer Senedd Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau.


Cyfarfod: 12/01/2012 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - cytuno ar y llythyrau drafft

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen y llythyrau drafft a chytunodd ar welliant i’w ystyried gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.


Cyfarfod: 28/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: sesiwn hawl i holi i aelodau'r cyhoedd roi eu barn ar y cynigion ar gyfer y PAC

Cofnodion:

4.1     Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwnhawl i holi’, gan roi cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau a lleisio’u barn ar y cynigion ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

 

4.2     Cytunodd y Gwasanaeth Ymchwil i baratoi nodyn byr mewn ymateb i gwestiwn gan Roger Davies ar godi treth ar dir preifat.

 

4.3     Gofynnodd William Powell am bapur briffio ar y cynlluniau agri-amgylcheddol gwahanol ledled 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd.

 

 


Cyfarfod: 28/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: tystiolaeth ychwanegol gan Gymdeithas y Pridd

 

Papur 1: Gwerthusiad o ‘Food for Life’

Papur 2: Trosolwg o’r adroddiad ar garbon mewn pridd

Papur 3: Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ynghylch y rheoliad llorweddol ar gyllido, rheoli a monitro’r PAC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5a.1   Nododd y grŵp yr ohebiaeth a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog a Chymdeithas y Pridd.


Cyfarfod: 28/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: tystiolaeth gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

CAP(4)-04-11 Papur 3: Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

          Sue Evans, Cyfarwyddwr Polisi

 

CAP(4)-04-11 Papur 4: Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

          Dylan Jones, Cadeirydd

Marc Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Gwledig

          Kay Lewis, Swyddog Datblygu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru.


Cyfarfod: 28/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru

CAP(4)-04-11 Papur 1: Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru

          Ed Bailey, Llywydd

          Mary James, Cyfarwyddwr

          Dylan Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr

 

CAP(4)-04-11 Papur 2: Undeb Amaethwyr Cymru

          Emyr Jones, Llywydd

          Nick Fenwick, Cyfarwyddwr Polisi Amaethyddol

          Rhian Nowell-Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Amaethyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru.


Cyfarfod: 17/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: Tystiolaeth gan y Grwp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt a Chymdeithas y Pridd

 

CAP(4)-03-11 Papur 5: Y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG)

          Glenda Thomas, Cyfarwyddwr FWAG Cymru

 

CAP(4)-03-11 Papur 6: Cymdeithas y Pridd

          Emma Hockridge, Pennaeth Polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG) a Chymdeithas y Pridd

 

4.2     Cytunodd Cymdeithas y Pridd i rannu’r gwerthusiad o’r prosiect ‘Food for Life Partnership’, a ariannwyd gan y Loteri, pan gaiff ei gyhoeddi.  

                                  


Cyfarfod: 17/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: Tystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

 

CAP(4)-03-11 Papur 3: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (papur i ddilyn)

          Trystan Edwards, Cynghorydd ar Ffermio a Chefn Gwlad Cymru

 

CAP(4)-03-11 Papur 4: Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

          Arfon Williams, Rheolwr Cefn Gwlad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r RSPB.  

 

3.2     Cytunodd yr RSPB i ysgrifennu at y Pwyllgor mewn ymateb i’r cwestiwn am arian Llywodraeth Cymru a ofynnwyd gan Antoinette Sandbach.


Cyfarfod: 17/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin: Tystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru

 

CAP(4)-03-11 Papur 1: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

          Simon Neale, Rheolwr Strategaeth a PholisiAnsawdd y tir

Richard Davies, Cynghorydd Uned Strategol Cymru ar ansawdd y tir

 

CAP(4)-03-11 Papur 2: Cyngor Cefn Gwlad Cymru

          Brian Pawson, Uwch-gynghorydd amaethyddol

          Dr Ieuan Joyce, Aelod o’r cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.


Cyfarfod: 09/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Tystiolaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd

Betty Lee, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth

Jean-Bernard Benhaiem, Rheolwr y RhaglenPolisïau’r UE

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd drwy gyfrwng fideo-gynhadledd. Cytunodd y Comisiwn i ddarparu gwybodaeth bellach am effaith y cynigion ar y sector llaeth ac, yn benodol, y ddarpariaeth ar gyfer contractau llaeth ysgrifenedig. Cytunodd hefyd i ddarparu gwybodaeth bellach am y Bartneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Arloesi mewn Cynhyrchiant Amaethyddol a’r wobr ar gyfer cydweithio lleol, arloesol mewn ardaloedd gwledig.


Cyfarfod: 09/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd

CAP(4)-02-11 papur 1

Alun Davies AC, Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd

Rory O'Sullivan, Cyfarwyddwr, Materion Gwledig

Terri Thomas, Pennaeth yr Is-adran Polisi Cefn Gwlad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog a gytunodd i rannu gwaith modelu mewn perthynas â thaliadau yn seiliedig ar ardal.


Cyfarfod: 05/10/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Papur briffio gan y Sefydliad Polisi Amgychleddol Ewropeaidd

CAP(4)-01-11 papur 1

Kaley Hart, Pennaeth y Rhaglen Amaeth a Rheoli Tir

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Gwnaeth Ms Hart gyflwyniad i’r grŵp ar y cynigion ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

 

2.2 Atebodd Ms Hart gwestiynau gan aelodau’r grŵp.


Cyfarfod: 29/09/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin - Cytuno'r cylch gorchwyl (11:35 - 11:40)

E&S(4)-05-11 papur 5

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen ar y polisi amaethyddol cyffredin.  


Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin

E&S(4)-04-11 papur 3 – i ddilyn

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin o dan Reol Sefydlog 17.17:

 

Bod y pwyllgor yn penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin;

mai cylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwnnw yw ystyried effaith cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer diwygior Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru, y bydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau negodi ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar y polisi, ac y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu heb fod yn hwyrach na diwedd 2012 neu unwaith y bydd y negodiadau ar y cynigion deddfu ar gyfer y polisi wedi’u cwblhau, pa un bynnag a ddaw yn gyntaf.

bod aelodaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn cynnwys Dafydd Elis-Thomas AC, Rebecca Evans AC, Vaughan Gething AC, Llyr Huws Gruffydd AC, William Powell AC ac Antoinette Sandbach AC, gyda Vaughan Gething AC wedi’i ethol yn Gadeirydd.