Cyfarfodydd

P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O gofio bod y ddeiseb hon wedi cael ei thrafod am y tro cyntaf dros bedair blynedd yn ôl a bod y camau nesaf yn ddibynnol ar benderfyniadau gweithredol y byddai’n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a gafwyd gan awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chytunwyd i ysgrifennu atynt eto i ofyn am y newyddion diweddaraf am y sefyllfa.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-365 Diogelu yr adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

  • Mae'n aelod o Gyngor Sir Powys, mae'r adeilad yn ei ward ac roedd wedi bod yn rhan o'r mater yn y rôl honno.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn am ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn iddo roi gwybod i’r Pwyllgor pryd y bydd yn ystyried y mater ac am ragor o wybodaeth ynghylch y rhesymau y bu oedi yn trafod y mater hwn.

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb.  Er bod Pwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i fod i ystyried rhestru'r safle yn lleol ar 7 Chwefror, cafwyd ar ddeall bod hyn bellach wedi'i ohirio am fis.  Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at  Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Clerc ysgrifennu at Mr Collins i egluro rôl y Pwyllgor; ac

·         ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys mater rhestrau lleol, cynlluniau datblygu lleol, a barn yr arolygydd cynllunio ynghylch yr angen am friff datblygu.

 

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y ddeiseb.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gynnwys ymweliad â’r safle fel rhan o ymweliadau’r hydref.


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ofyn a fydd y safle wedi ei gynnwys, unwaith bydd y rhestr leol wedi ei chytuno.


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb.

Nododd y Cadeirydd, yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd sir, ei fod wedi trafod y mater gyda’r ddwy ochr.

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, gan gynnwys a fyddai’n ystyried rhoi’r adeilad ar restr leol.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datgannodd y Cadeirydd fuddiant yn y pwnc gan ei fod yn gynghorydd lleol yn Nhalgarth.

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu, unwaith eto, at Cadw i awgrymu iddo weithredu camau dros dro i ddiogelu adeiladau o’r fath nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;

Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i wneud cais bod camau diogelu dros dro yn cael eu gweithredu nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;

Ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bwysleisio’r ffaith bod y safle mewn ardal gadwraeth ac i ofyn bod unrhyw geisiadau cynllunio a gaiff eu derbyn yn diogelu adeiladau nodedig yn yr ardal gadwraeth.

 


Cyfarfod: 28/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:

Ysgrifennu at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys i ofyn am eu barn ynghylch pwnc y ddeiseb;

Ysgrifennu at Cadw, ac anfon copi at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, i ofyn am eu barn ynghylch pwnc y ddeiseb;

Gofyn am ragor o sylwadau gan Save Britain’s Heritage ynghylch pwnc y ddeiseb.