Cyfarfodydd

Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7D.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 5

PAC(4)-32-13 papur 6

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 


Cyfarfod: 28/01/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Wasanaethau Mamolaeth, a fyddai’n cael ei gyhoeddi’n fuan, a chytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.


Cyfarfod: 08/01/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Trafod yr adroddiad drafft ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru a chytunodd i drafod adroddiad diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 12/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan

 

PAC(4) 25-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant
Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Gwasanaethau Iechyd)
Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio a Chyd-Gadeirydd Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan

Claire Foster, Cyd-Gadeirydd Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan. Yn benodol, bu'r Aelodau'n holi'r tystion ynghylch:

 

·         Y fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru

·         Lefelau staffio a hyfforddiant ar gyfer staff

·         Y ddarpariaeth o wasanaethau newyddenedigol

·         Cyfraddau toriadau Cesaraidd

·         Adolygiad o'r rhaglen bwydo ar y fron yng Nghymru

 

Cam Gweithredu:

 

2.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am sut y mesurir a yw rhieni yn hyderus a gwybodus, ar ôl trafodaethau priodol;

·         Data sy'n amlinellu nifer yr ymarferwyr y mae angen iddynt ddefnyddio dull hyfforddi Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr;

·         Rhagor o wybodaeth am recriwtio neonatolegyddion yng Nghymru gan gynnwys manylion am y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y neonatolegyddion;

·         Linc i waith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y berthynas rhwng cyfraddau BMI, beichiogrwydd a thoriadau Cesaraidd;

·         Rhagor o wybodaeth am nifer y staff asiantaeth a ddefnyddir ym maes bydwreigiaeth;

·         Amserlen ar gyfer cyflwyno offer electronig i fonitro cyflymder calon y ffetws ar gyfer gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol;

·         Rhagor o wybodaeth am y cynnydd a wnaed gan Fyrddau Iechyd Lleol o ran gweithredu'r pecyn cymorth ar doriadau Cesaraidd.

 


Cyfarfod: 12/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Aelodau yn trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y prif faterion a themâu sy'n codi o'r dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad ar ei ymchwiliad byr i Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 12/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol

Paul Roberts, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Allison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Kath McGrath, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg. Yn benodol, bu'r Aelodau'n holi'r tystion ynghylch:

 

·         Y fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru;

·         Lefelau staffio a hyfforddiant ar gyfer staff;

·         Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal newyddenedigol;

·         Bwydo ar y fron; a

·         Cyfraddau toriadau Cesaraidd

 

Cam Gweithredu:

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf i ddarparu:

 

·         Eglurhad am y gyfradd bresennol ar gyfer pryd y mae menywod yn dod i gysylltiad am y tro cyntaf â swyddog meddygol proffesiynol (boed yn feddyg teulu neu'n fydwraig) cyn eu degfed wythnos o feichiogrwydd.

·         Gwybodaeth am y broses o werthuso'r arbrawf ar gyd-leoli unedau esgor risg isel ac uchel.

·         Gwybodaeth am eu cyfraddau toriadau Cesaraidd o fis i fis.

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i ddarparu:

 

·         Gwybodaeth am eu cyfraddau toriadau Cesaraidd o fis i fis.

·         Gwybodaeth am ei sefyllfa o ran darparu'r lefelau staffio a argymhellir ar gyfer staff meddygol a nyrsys, a chyrraedd y gymhareb 90:10 o staff cymwysedig ac anghymwys.

·         Gwybodaeth am ddatblygu grwpiau cymorth i gymheiriaid.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ohebiaeth ynghylch gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru

PAC(4) 12-12 – Papur 1, Atodiad – Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru – Ywybodaeth ddiweddaraf am gynnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Rhoddwyd briff i’r Pwyllgor gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Dave Thomas, Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a Tracey Davies, Rheolwr Archwilio Perfformiad.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am gyfraddau genedigaethau Cesaraidd y byrddau iechyd yng Nghymru o’u cymharu â rhanbarthau a chenhedloedd eraill y DU, gan gynnwys y data diweddaraf sydd ar gael.

 


Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Opsiynau ar gyfer ymdrin â gohebiaeth ynghylch gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dewisiadau ar gyfer ymdrin â’r cyngor a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar wasanaethau mamolaeth, a phenderfynodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad byr i rai materion sy’n peri pryder a amlygwyd yn ei ohebiaeth.