Cyfarfodydd

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Cofnodion:

Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol.

 

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Trafod Adroddiad Drafft - Deisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Hydref a 7 Tachwedd mewn perthynas â'r ddeiseb hon a P-04-575 Galw i mewn pob cais cynllunio ar gyfer cloddio glo brig, a chytunodd i lunio adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddwy ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Neil Hemington a Joanne Smith.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio ymhellach i sylwadau a briodolir i’r arolygydd cynllunio yn ystod gwrandawiad apêl ynghylch cais cloddio glo brig ym Mryn Farteg, ac ysgrifennu at y Pwyllgor.


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod y dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth y sesiwn dystiolaeth flaenorol a nododd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y materion a godwyd gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd ochr yn ochr â chynrychiolwyr deiseb P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig.

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am ragor o fanylion am y cynnig i gyfyngu ar y gwaith datblygiad glo newydd sydd wrthi'n cael ei ystyried i ymgynghori arno fel rhan o'r adolygiad o Bolisïau Cynllunio yng Nghymru y llynedd.

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyflwyno adroddiad ar y ddeiseb i'r Cynulliad â'r bwriad o gynnal trafodaeth ar y mater yn y Cyfarfod Llawn.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 18 Chwefror a chytunodd i:

1.   wahodd Arolygiaeth Gynllunio Cymru i roi tystiolaeth ar y materion a godwyd yn y ddeiseb a'r cysondeb o ran dulliau pawb sydd ynghlwm wrth y broses;

2.   ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; ac

3.   ysgrifennu at CLlLC i ofyn ei farn am sut y caiff y broses ei rheoli ym mhob awdurdod lleol.

 


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

 

Joanne Smith, Uwch-reolwr Cynllunio

 

Rosemary Thomas, Pennaeth Cynllunio

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Carl Sargeant AC gwestiynau'r Pwyllgor gyda Joanne Smith a Rosemary Thomas yn ei gynorthwyo.

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         aros i'r Gweinidog ddod gerbron y Pwyllgor ym mis Chwefror;

·         ysgrifennu at y Gweinidog i gael eglurhad ynghylch y mathau o gwestiynau na fydd yn gallu ymdrin â nhw tan fod penderfyniad ynghylch cais Varteg Hill; ac

·         ystyried gwahodd rhanddeiliaid i roi tystiolaeth yn y flwyddyn newydd.

 

Yn ogystal, gyda thristwch, fe nododd y Pwyllgor farwolaeth gwraig y prif ddeisebwr a chytuno y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Cox i fynegi cydymdeimlad yr Aelodau.

 

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 14 Mai a thrafod y meysydd yr hoffent eu codi gyda'r Gweinidog pan fydd yn rhoi tystiolaeth lafar. Yn ogystal, cytunodd yr Aelodau i;

 

·         ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn holi ei barn am statws MTAN;

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio yn holi am ddiffiniadau clir o ‘amgylchiadau eithriadol’ pan fydd modd hepgor y glustogfa 500 metr; ac i

·         wahodd yr Arolygiaeth Gynllunio i roi tystiolaeth lafar.

 

 


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf: Sesiwn Dystiolaeth

Dr John Cox, Deisebydd

 

Lynne Neagle, Aelod Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y deisebwr a Lynne Neagle AC gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Elin Jones AC am ei gwaith ar y Pwyllgor Deisebau.

 

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; a

·         chlywed tystiolaeth lafar.