Cyfarfodydd

Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gohebiaeth y Pwyllgor

PAC(4)-25-15 Papur 2 – Llythyr gan Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Y Grwp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru (14 Medi 2015)

PAC(4)-25-15 Papur 3 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (29 Medi 2015)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr aelodau yr ohebiaeth.

4.2 Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn gofyn i lywodraeth leol ddarparu gwybodaeth fanylach am yr hyn yw bwriad pob cronfa wrth gefn a sut y maent yn disgwyl eu gwario dros gyfnod o amser.

4.3 Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn annhebygol y bydd y Pwyllgor yn ailedrych ar y mater hwn cyn diwedd tymor y Cynulliad.

 

 


Cyfarfod: 07/07/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Trafod yr ohebiaeth.

PAC(4)-20-15 Papur 2

PAC(4)-20-15 Papur 3

PAC(4)-20-15 Papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau’r llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunodd y dylai’r Cadeirydd gopïo’r ohebiaeth ddiweddar ag Owen Evans, y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol sydd newydd ei benodi, sydd â chyfrifoldeb dros hyn, yn gofyn am ei ystyriaethau ynghylch y cwestiynau a ofynnwyd. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater hwn eto ym mis Medi.

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-19-15 Papur 1

PAC(4)-19-15 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor ei fod yn bwriadu ysgrifennu at y Cadeirydd i roi sylwadau ar y llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Lywodraeth Leol a Chymunedau. 

7.2 Dywedodd y Cadeirydd y bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater hwn eto yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Powys am ymadawiadau cynnar (Mehefin 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ymadawiadau cynnar (Mehefin 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cadernid Ariannol Cynghorau yng Nghymru: Llythyr gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau (14 Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-13-15 papur 5 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Tynnodd Alan Morris sylw at y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru.

 

7.2 Nododd Aelodau y byddai llythyr drafft gan y Cadeirydd at June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru yn cael ei ddosbarthu er mwyn cael eu sylwadau a chytundeb yn nes ymlaen heddiw.

 


Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Cydnerthedd ariannol cynghorau yng Nghymru: Sesiwn friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

8.1 Oherwydd prinder amser, gohiriwyd yr eitem hon a chaiff ei hail-drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu: Llythyr oddi wrth Gyngor Bro Morgannwg at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (13 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu: Llythyr oddi wrth Gyngor Rhondda Cynon Taf at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (13 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu: Llythyr oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (10 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Ystyried y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd, a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu, gan dynnu sylw Llywodraeth Cymru at nifer o faterion a godwyd yn ystod y cyfarfod.

 

5.2 Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu nodyn ar adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar Gynaliadwyedd Ariannol Awdurdodau Lleol [yn Lloegr] 2014.

 

 

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Briff ymchwil

 

Y Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards – Arweinydd Cyngor Gwynedd

Y Cynghorydd Andrew Morgan – Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Christopher Lee - Cyfarwyddwr Grŵp, Gwasanaethau Corfforaethol a Rheng Flaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Y Cynghorydd Neil Moore – Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg

Sian Davies – Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1Holodd y Pwyllgor y Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Christopher Lee, Cyfarwyddwr Grŵp, Gwasanaethau Corfforaethol a Rheng Flaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Sian Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg, yn fanwl am gwrdd â’r heriau ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (6 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol mewn Llywodraeth Leol: Llythyr gan June Milligan (22 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Llythyr gan Steve Thomas, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (8 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau (1 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymdrin â'r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Briff ymchwil

 

Steve Thomas CBE – Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jon Rae - Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dilwyn Williams – Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Cymdeithas Trysoryddion Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnodda,u Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Dilwyn Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Gwynedd a Chadeirydd Cymdeithas Trysoryddion Cymru ar Ymdrin â'r Heriau Ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru.

3.2 Cytunodd Steve Thomas i ddarparu copïau o adroddiadau blaenorol yr is-grŵp gwariant.

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cwrdd â'r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Briff ymchwil

 

June Milligan - Cyfarwyddwr Cyffredinol, AdranLlywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Debra Carter - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru,

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a 

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ynghylch Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru.

2.1 Cytunodd June Milligan i ysgrifennu at y Cadeirydd ar nifer o faterion a godwyd yn y sesiwn.

2.3 Yn ystod rhan breifat y cyfarfod, bu'r Aelodau'n trafod y dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 20/05/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Bodloni'r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

PAC(4)-14-14(papur 2)

PAC(4)-14-14(papur 3)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth a chytuno i gynnal ymchwiliad byr i'r mater yn ystod tymor yr haf.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Trafod y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 


Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Y camau nesaf

Dogfennau ategol:

  • PAC(4)-10-14(p6) (Saesneg yn unig)
  • PAC(4)-10-14(p7) (Saesneg yn unig)

Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr. Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n edrych ar y materion a godwyd yn y llythyr yng nghyd-destun ei ystyriaeth o adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

 


Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

8.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Ymdrin â'r heriau ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru.

 

8.2 Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd y Cadeirydd hefyd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i roi gwybod i'r Pwyllgor am yr adroddiad hwn a gofyn iddo ystyried cynnal ymchwiliad i'r mater.

 

8.3 Ar ôl i'r ymatebion ddod i law, bydd y Pwyllgor yn trafod a ddylid cynnal ymchwiliad i'r mater.