Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog
Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd
Mawrth. Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem
olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y
Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar
gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a
chytunodd i drefnu’r eitemau a ganlyn: Dydd
Mercher 14 Hydref 2015 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru – Tlodi ac
Anghydraddoldeb (60 munud) ·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Maint Pwyllgorau Cofnodion: Yn wyneb sylwadau a wnaed gan y Rheolwyr Busnes yn y
cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2015 ynghylch adolygu rhannau o’r Rheolau Sefydlog cyn
diwedd y Pedwerydd Cynulliad, bu Rheolwyr Busnes yn trafod papur a oedd yn
nodi’r darpariaethau perthnasol a’r dewisiadau posibl mewn perthynas â maint
pwyllgorau. Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i drafod y papur
gyda’u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod ar 20 Hydref 2015. Yn y
cyfamser, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu pwyntiau
penodol yn ymwneud â maint pwyllgorau i’r grwpiau plaid eu hystyried. |