Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil
Llywodraeth Leol (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y
trafodion am egwyl o ddeng munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3. Nododd y Rheolwyr Busnes na fyddai Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylid cynnal Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher cyn y Ddadl Fer. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r
eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 21 Hydref 2015 – ·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i
gamddefnyddio alcohol a sylweddau (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Amserlen y Gyllideb |
|
Amserlen ar gyfer Cyllideb 2016-17 Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb 2016-17. Dywedodd y Gweinidog fod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei
Hadolygiad o Wariant yn hwyr wedi effeithio ar gadarnhau Cyllideb Ddrafft
2016-17 ond dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes am ei bwriad i gyhoeddi'r Gyllideb
Ddrafft ar 8 Rhagfyr 2015 a'r Gyllideb Derfynol ar 1 Mawrth 2016. Hefyd, dywedodd y Gweinidog wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu
at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn nodi'r amserlen arfaethedig. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes pe bai'r Cadeirydd yn cadarnhau ei bod yn fodlon ar y dyddiad
cau arfaethedig o 2 Chwefror ar gyfer cyflwyno adroddiad, y byddent yn fodlon ar
y dyddiad cau hwn ac y dylai'r amserlen hon gael ei chadarnhau a'i chyhoeddi
cyn y cyfarfod nesaf. |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn amlinellu'r dull arfaethedig ar gyfer
ymdrin ag Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor. Cymeradwyodd y Rheolwyr Busnes y cylch gorchwyl a'r dull arfaethedig o
ymgynghori a nodwyd yr amserlen arfaethedig. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am gynnal cyfarfod pwrpasol ychwanegol ar ôl i'r
ymgynghoriad ddod i ben ddiwedd mis Tachwedd i ystyried y dystiolaeth a gasglwyd. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn adolygu'r arfer presennol ar gyfer
Cwestiynau Llafar y Cynulliad, yn benodol cyflwyno cwestiynau amserol. Ystyriodd y Llywydd gais gan Reolwyr Busnes y Gwrthbleidiau i gyhoeddi pob
cais am Gwestiwn Brys, ond gwrthododd y cais ar y sail na fyddai cyhoeddi
rhestr yn mynd i'r afael â'r broblem o alluogi'r Aelodau i ofyn cwestiynau
amserol. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur ychwanegol gydag opsiynau pellach ar
gwestiynau amserol i'r Grwpiau Plaid ei ystyried ac i ddychwelyd at y mater
mewn cyfarfod yn y dyfodol. |