Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 er
mwyn caniatáu i Reoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
(Darpariaethau Canlyniadol) 2015 gael eu trafod, yn digwydd ar ôl eitem 3 ddydd
Mawrth. Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y
trafodion am egwyl o chwarter awr cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3. Byddai cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn digwydd yn syth ar ôl eitem
2 ddydd Mercher. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Prif Weinidog i symud dadl Plaid
Cymru ar Trident, y bydd yn ymateb iddi, i fod cyn dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes
dydd Mawrth yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 25 Tachwedd
2015 – ·
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015 (30 munud) Dydd Mercher 9 Rhagfyr
2015 – ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) |
|
Craffu ar y Bil Cymru Drafft Cofnodion: Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod papur yn nodi'r opsiynau posibl ar gyfer
craffu ar y Bil Cymru drafft yn y Cyfarfod Llawn yn dilyn cais gan y Rheolwyr
Busnes yn y cyfarfod blaenorol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater
yng nghyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Cofnodion: Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) at y
Pwyllgor Busnes i wneud cais am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) o ddydd Gwener 27 Tachwedd 2015 i 11
Rhagfyr 2015. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yr wythnos nesaf, yn
dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddydd Iau. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ddeddfu yng Nghymru Cofnodion: Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod papur yn adolygu’r argymhellion a wnaed gan
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn yr adroddiad ar ei
ymchwiliad i ddeddfu yng Nghymru i'r graddau y maent yn berthnasol i gylch
gwaith y Pwyllgor Busnes. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater
yn y cyfarfod ddydd Llun 30 Tachwedd 2015. |
|
Etifeddiaeth Pwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad |
|
Papur i'w nodi-adroddiad Fforwm y Cadeiryddion Pwyllgor Cofnodion: Nododd y Pwyllgor adroddiad Fforwm y Cadeiryddion Pwyllgor a fydd yn
ffurfio rhan o'r drafodaeth ar adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes yn ei
gyfarfod ar 30 Tachwedd 2015. |