Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y
wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y
newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 9 Rhagfyr
2015 - ·
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) Dydd Mercher 13 Ionawr
2016 - ·
Bil Cymru drafft (180 munud) Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes: Dydd Mercher 9 Rhagfyr
2015 –
|
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes y ddau gynnig a gyflwynwyd ar gyfer y ddadl. Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015 o
NNDM5881 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe) Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi Cymru.
a) barhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn ystod
y cyfnod anodd hwn; a
Dydd Mercher 9 Rhagfyr
2015 o NNDM5885 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru) Suzy Davies (Gorllewin
De Cymru) Eluned Parrott (Canol De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad
ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond
gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u
creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl
eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill; 2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y
degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol; 3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau
cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth
yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r
anghydraddoldeb o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; ac 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar
addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn
amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad
at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu
cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion. |
|
Craffu ar Fil Cymru drafft Cofnodion: Ystyriodd y Rheolwyr
Busnes bapur yn nodi'r opsiynau posibl ar gyfer craffu ar Fil Cymru drafft yn y
Cyfarfod Llawn. Penderfynodd y Rheolwyr Busnes gyflwyno dadl 3 awr yn y
Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Ionawr a dychwelyd at y mater eto yr wythnos
nesaf i benderfynu ar strwythur y ddadl. |
|
Deddfwriaeth |
|
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undebau Llafur Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 21 Ionawr 2016 er mwyn i’r Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 26
Ionawr 2016. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor Busnes ystyriaeth bellach i'r cais gan Gadeirydd y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymestyn ei derfyn amser adrodd ar gyfer
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) o ddydd Gwener 27 Tachwedd 2015 i 11 Rhagfyr 2015.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddydd Mercher pe bai angen mwy o amser ar y
pwyllgor. |