Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1–
6, 8 – 12 ac 14 - 15. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 13 i’w
ateb yn ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.13 Gofynnwyd cwestiynau 1 – 9 ac 11 - 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 10 i’w
ateb yn ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig o dan adran 19(5)(a) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 NNDM5028 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran
19(5)(a) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011: Yn cytuno
bod y weithdrefn a nodir yn adrannau 19(6) i 19(9) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus
2011 yn berthnasol i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012. Gellir gweld
Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 drwy fynd i: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/24/contents (Saesneg yn unig) Gosodwyd Gorchymyn
Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 gerbron y Cynulliad ar 30 Mai 2012. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 NNDM5028 Antoinette
Sandbach (Gogledd Cymru) Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran
19(5)(a) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011: Yn cytuno bod y weithdrefn a nodir yn adrannau 19(6) i 19(9) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus
2011 yn berthnasol i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012. Gellir gweld Deddf Cyrff Cyhoeddus
2011 drwy fynd i: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/24/contents (Saesneg yn unig) Gosodwyd Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 gerbron y Cynulliad ar 30 Mai 2012. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5023 Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd) Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru) Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob
etholiad a refferendwm a gynhelir yng Nghymru. Cefnogwyd gan: Keith Davies (Llanelli) Christine Chapman (Cwm Cynon) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Julie James (Gorllewin Abertawe) Peter Black (Gorllewin De Cymru) Mick Antoniw (Pontypridd) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.33 NDM5023 Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi gostwng yr oedran
pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad
a refferendwm a gynhelir yng Nghymru. Cefnogwyd gan: Keith Davies (Llanelli) Christine Chapman (Cwm Cynon) Kirsty Williams (Brycheiniog
a Sir Faesyfed) Vaughan Gething (De Caerdydd
a Phenarth) Mark Drakeford (Gorllewin
Caerdydd) Julie James (Gorllewin
Abertawe) Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mick Antoniw (Pontypridd) Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Canlyniad y bleidlais:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5030 William
Graham (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod: a) cymunedau gwledig yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys poblogaethau sy’n heneiddio, mynediad cyfyngedig at wasanaethau yn ogystal ag arwahanrwydd cymdeithasol ac economaidd; b) hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig yn cael ei danseilio gan seilwaith cyfathrebu a thrafnidiaeth wael; ac c) diwydiant ffermio Cymru yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys diogelu’r cyflenwad bwyd, y newid yn yr hinsawdd ac iechyd anifeiliaid. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i amddifadedd gwledig, gan gynnwys tlodi trafnidiaeth a mynediad cyfyngedig at wasanaethau a thai fforddiadwy; b) sicrhau nad oes oedi pellach wrth gyflwyno Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf; c) cydnabod manteision ysgogi’r economi wledig drwy rhyddhad ardrethi busnes a gwell cymorth i fusnesau bach a chanolig gwledig; a d) gweithio mewn partneriaeth ag undebau ffermio a rhanddeiliaid gwledig fel bod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 1b a newid i: ‘seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu yn allweddol wrth gynnal hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig; ac’ Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: ‘y £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn hwb i’w groesawu mewn ardal wledig.' Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt 2a, dileu ‘rhoi rhagor’ a newid i ‘yn parhau’ Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2b a newid i: ‘sicrhau bod Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yn parhau i gyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu ar amser;’ Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: ‘adolygu’r Grant Cynnal Refeniw i ystyried gwledigrwydd yn well.’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.15 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5030 William
Graham (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod: a) cymunedau gwledig yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys poblogaethau sy’n heneiddio, mynediad cyfyngedig at wasanaethau yn ogystal ag arwahanrwydd cymdeithasol ac economaidd; b) hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig yn cael ei danseilio gan seilwaith cyfathrebu a thrafnidiaeth wael; ac c) diwydiant ffermio Cymru yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys diogelu’r cyflenwad bwyd, y newid yn yr hinsawdd ac iechyd anifeiliaid. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i amddifadedd gwledig, gan gynnwys tlodi trafnidiaeth a mynediad cyfyngedig at wasanaethau a thai fforddiadwy; b) sicrhau nad oes oedi pellach wrth gyflwyno Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf; c) cydnabod manteision ysgogi’r economi wledig drwy ryddhad ardrethi busnes a gwell cymorth i fusnesau bach a chanolig gwledig; a d) gweithio mewn partneriaeth ag undebau ffermio a rhanddeiliaid gwledig fel bod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 1b a newid i: ‘seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu yn allweddol wrth gynnal hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig; ac’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: ‘y £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn hwb i’w groesawu mewn ardal wledig.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt 2a, dileu ‘rhoi rhagor o gydnabyddiaeth’ a newid i ‘parhau i roi cydnabyddaieth’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant
3. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2b a newid i: ‘sicrhau bod Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yn parhau i gyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu ar amser;’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: ‘adolygu’r Grant Cynnal Refeniw i ystyried gwledigrwydd yn well.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5030 William
Graham (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod: a) cymunedau gwledig yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys poblogaethau sy’n heneiddio, mynediad cyfyngedig at wasanaethau yn ogystal ag arwahanrwydd cymdeithasol ac economaidd; b) seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu yn allweddol wrth gynnal hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig; c) diwydiant ffermio Cymru yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys diogelu’r cyflenwad bwyd, y newid yn yr hinsawdd ac iechyd anifeiliaid; a d) y £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn hwb i’w groesawu mewn ardal wledig 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) parhau i roi cydnabyddiaeth i amddifadedd gwledig, gan gynnwys tlodi trafnidiaeth a mynediad cyfyngedig at wasanaethau a thai fforddiadwy; b) sicrhau bod Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yn parhau i gyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu ar amser; c) cydnabod manteision ysgogi’r economi wledig drwy ryddhad ardrethi busnes a gwell cymorth i fusnesau bach a chanolig gwledig; a d) gweithio mewn partneriaeth ag undebau ffermio a rhanddeiliaid gwledig fel bod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5027 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwrthwynebu lleoli Trident, neu unrhyw arfau niwclear eraill, yn Aberdaugleddau neu yn unrhyw le arall yng Nghymru; a 2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen i gael olynydd i Trident ac i ddefnyddio’r adnoddau a arbedwyd i greu swyddi. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.12 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5027 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwrthwynebu lleoli Trident, neu unrhyw arfau niwclear eraill, yn Aberdaugleddau neu yn unrhyw le arall yng Nghymru; a 2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen i gael olynydd i Trident ac i ddefnyddio’r adnoddau a arbedwyd i greu swyddi.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5027 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.10 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5029 Rebecca Evans
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Clefydau Anghyffredin Archwilio’r cyfleoedd i roi sylw i’r problemau cyffredin a
wynebir gan bobl gyda chlefydau anghyffredin. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.15 NDM5029 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Clefydau Anghyffredin Archwilio’r cyfleoedd i roi sylw i’r problemau cyffredin a wynebir gan bobl gyda chlefydau anghyffredin. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |