Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1i 2, 4 i 9 a 11 a 12. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 10 i’w ateb yn ysgrifenedig. Atebwyd cwestiwn 12 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.07 Gofynnwyd cwestiynau 2 i 13. Tynnwyd cwestiynau 1 a 14 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Peter Black: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.48 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5084 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog; 2. Yn mynegi pryder am ddiffyg cydlyniant a chapasiti gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma ac yn nodi’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr; 3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac 4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio. Gellir gweld
Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru drwy fynd i: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/865/Armed%20Forces%20Report%202012-04-03%20-%20Welsh%20-%20Web%20PDF.pdf Ym mhwynt 2, dileu popeth cyn ‘rôl’ a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi’r buddsoddiad
diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n
dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.24 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5084 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog; 2. Yn mynegi pryder am ddiffyg cydlyniant a chapasiti gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma ac yn nodi’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr; 3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac 4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 2, dileu popeth cyn ‘rôl’ a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi’r buddsoddiad diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5084 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog; 2. Yn nodi’r buddsoddiad diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr; 3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac 4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5086 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg; b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder; 2. Yn gresynu nad oedd yr holl bartneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith erbyn mis Medi 2012 fel yr addawyd; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod: a) y consortia addysg rhanbarthol ar waith yn llawn cyn gynted â phosibl; a b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei
wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt 1a, ar ôl ‘partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol’,
ychwanegu ‘, ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun
gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol
ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus,’ Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1b, dileu popeth ar ôl ‘ysgolion uwchradd,’ a rhoi'r canlynol yn
ei le: yn ddiffygiol iawn, ac nad oes gan athrawon, rhieni na disgyblion hyder
ynddo. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y methwyd â rhoi partneriaethau
gwella ysgolion rhanbarthol ar waith cyn y dyddiad a bennwyd. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3a, dileu popeth ar ôl ‘rhanbarthol,’ a rhoi'r canlynol yn ei le: yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn
gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y
consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei
hadolygu. Gwelliant 7 -Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn
llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a
phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn
cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn
gallu cyflawni ei botensial. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu pecyn cymorth
helaeth a gwahaniaethol ar gyfer ysgolion uwchradd ym Mandiau 4 a 5 y mae angen
eu gwella ar frys. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad yw 96.5 y cant o benaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru yn
credu y bydd cynigion ar gyfer bandio ysgolion o fudd i’w hysgol, ac yn credu y
gallai diffyg cefnogaeth o’r fath gan y sector i un o bolisïau allweddol
Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol ar unrhyw agenda i wella ysgolion. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.21 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5086 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod: a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg; b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder; 2. Yn gresynu nad oedd yr holl bartneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith erbyn mis Medi 2012 fel yr addawyd; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod: a) y consortia addysg rhanbarthol ar waith yn llawn cyn gynted â phosibl; a b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt 1a, ar ôl ‘partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol’, ychwanegu ‘, ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus,’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ym mhwynt 1b, dileu popeth ar ôl ‘ysgolion uwchradd,’ a rhoi'r canlynol yn ei le: yn ddiffygiol iawn, ac nad oes gan athrawon, rhieni na disgyblion hyder ynddo. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y methwyd â rhoi partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith cyn y dyddiad a bennwyd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ym mhwynt 3a, dileu popeth ar ôl ‘rhanbarthol,’ a rhoi'r canlynol yn ei le: yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei hadolygu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 -Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu pecyn cymorth helaeth a gwahaniaethol ar gyfer ysgolion uwchradd ym Mandiau 4 a 5 y mae angen eu gwella ar frys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant 9. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad yw 96.5% o benaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru yn credu y bydd cynigion ar gyfer bandio ysgolion o fudd i’w hysgol, ac yn credu y gallai diffyg cefnogaeth o’r fath gan y sector i un o bolisïau allweddol Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol ar unrhyw agenda i wella ysgolion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Gwrthodwyd gwelliant 10. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5086 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant. 2. Yn nodi bod: a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg; b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod: a) y consortia addysg rhanbarthol yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei hadolygu. b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig. 4. Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5085 Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) nad yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ar 31 Hydref 2012, wedi cytuno ar gyllideb gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13; b) nad yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu paratoi cynlluniau gwasanaeth priodol oherwydd diffyg eglurder ariannol; ac c) am y pedwar mis diwethaf yn olynol, nid yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflawni ei darged Cymru gyfan lle mae ambiwlansys yn ymateb o fewn wyth munud i 65% o alwadau Categori A (lle mae bywyd yn y fantol). 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cytuno ar gyllideb gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 fel mater o frys; b) amlinellu rôl Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ad-drefnu’r gwasanaeth a’r effaith y gallai’r ad-drefnu hwnnw ei chael ar eu cyllideb a’u perfformiad; c) asesu ar fyrder y cymorth sydd ar gael i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel y gall gyrraedd ei darged amser ymateb o 65% y cytunwyd arno; a d) adolygu’r trefniadau ar fyrder lle mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sef pwyllgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl Fyrddau Iechyd Lleol, yn gorfod cytuno ar gyllideb ar gyfer ymddiriedolaeth arall. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1a, dileu ‘yw’ a rhoi ‘oedd’ yn ei le. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1b, dileu ‘yw’ a rhoi ‘oedd’ yn ei le.
Dileu is-bwynt 2a. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2a. [Os derbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 7 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le: Galw ar y Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb dros osod cyllideb Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru. Gwelliant 7 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le: ‘parhau i asesu’r trefniadau rhwng
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn sicrhau bod trefniadau
llywodraethu ac ariannu cadarn yn dal ar waith.’ Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r rôl hanfodol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ei chwarae
wrth gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i achosion brys yng
Nghymru. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru
i gynllunio gofal brys a darparu digon o gyllid uniongyrchol i’r gwasanaethau
hynny, er mwyn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflawni ei amcanion
allweddol. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod GIG Cymru yn wynebu’r toriadau iechyd termau real mwyaf o
holl wledydd y DU, ac y gallai hyn gael effaith andwyol ar Wasanaeth Ambiwlans
Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.17 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5085 Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) nad yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ar 31 Hydref 2012, wedi cytuno ar gyllideb gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13; b) nad yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu paratoi cynlluniau gwasanaeth priodol oherwydd diffyg eglurder ariannol; ac c) am y pedwar mis diwethaf yn olynol, nid yw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflawni ei darged Cymru gyfan lle mae ambiwlansys yn ymateb o fewn wyth munud i 65% o alwadau Categori A (lle mae bywyd yn y fantol). 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cytuno ar gyllideb gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 fel mater o frys; b) amlinellu rôl Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ad-drefnu’r gwasanaeth a’r effaith y gallai’r ad-drefnu hwnnw ei chael ar eu cyllideb a’u perfformiad; c) asesu ar fyrder y cymorth sydd ar gael i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel y gall gyrraedd ei darged amser ymateb o 65% y cytunwyd arno; a d) adolygu’r trefniadau ar fyrder lle mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sef pwyllgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl Fyrddau Iechyd Lleol, yn gorfod cytuno ar gyllideb ar gyfer ymddiriedolaeth arall.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ym mhwynt 1a, dileu ‘yw’ a rhoi ‘oedd’ yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ym mhwynt 1b, dileu ‘yw’ a rhoi ‘oedd’ yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2a. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gan fod gwelliant 4 wedi’i gynnig, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol. Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le: Galw ar y Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb dros osod cyllideb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu is-bwynt 2d a rhoi yn ei le: ‘parhau i asesu’r trefniadau rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu ac ariannu cadarn yn dal ar waith.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r rôl hanfodol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ei chwarae wrth gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i achosion brys yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gynllunio gofal brys a darparu digon o gyllid uniongyrchol i’r gwasanaethau hynny, er mwyn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyflawni ei amcanion allweddol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant 9. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod GIG Cymru yn wynebu’r toriadau iechyd termau real mwyaf o holl wledydd y DU, ac y gallai hyn gael effaith andwyol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Gwrthodwyd gwelliant 10. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5085 Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) amlinellu rôl Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ad-drefnu’r gwasanaeth a’r effaith y gallai’r ad-drefnu hwnnw ei chael ar eu cyllideb a’u perfformiad; b) asesu ar fyrder y cymorth sydd ar gael i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel y gall gyrraedd ei darged amser ymateb o 65% y cytunwyd arno; a c) parhau i asesu’r trefniadau rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu ac ariannu cadarn yn dal ar waith. 2. Yn nodi’r rôl hanfodol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn ei chwarae wrth gynorthwyo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymateb i achosion brys yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.08 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer: GOHIRWYD tan 28 Tachwedd NDM5083 Nick Ramsay (Mynwy): Asbestos mewn ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael gwybod amdani. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |