Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 8 a 10 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 4 a 14 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Trosglwyddwyd cwestiwn 15 ar gyfer ateb ysgrifenedig
gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Gofynnwyd y cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dechreuodd yr eitem am 14.25 NDM5177 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal
y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud
yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad
wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes
yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5176 gael ei ystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.26 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5171 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.Yn
nodi pwysigrwydd cydnabod a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig; 2.Yn
credu y dylid ystyried cyflwyno System Anrhydeddau Cymreig i gydnabod a gwobrwyo’r rhai sydd wedi
gwneud cyfraniadau gwerthfawr i fywyd Cymru; a 3.Yn
croesawu’r gefnogaeth gyhoeddus eang sy’n bodoli dros
ddynodi Dydd Gwyl Dewi yn
ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yng Nghymru
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gymryd camau priodol i gyflawni’r nod hwnnw. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu
bod y Gymraeg yn rhan annatod o amrywiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn cyrraedd
ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng
y Gymraeg, i wella’r defnydd o’r Gymraeg
bob dydd gan genedlaethau’r dyfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14.30 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5171 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi
pwysigrwydd cydnabod a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig; 2.Yn credu
y dylid ystyried cyflwyno System Anrhydeddau Cymreig i gydnabod a gwobrwyo’r rhai sydd wedi gwneud
cyfraniadau gwerthfawr i fywyd Cymru; a 3.Yn croesawu’r
gefnogaeth gyhoeddus eang sy’n bodoli
dros ddynodi Dydd Gwyl Dewi
yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau priodol
i gyflawni’r nod hwnnw.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.Yn
nodi’r effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan
ambiwlansys ei chael ar iechyd
a lles cleifion; 2.Yn
nodi bod 11 o orsafoedd ambiwlans wedi cau yng Nghymru
ers 2008/09; 3.Yn
mynegi pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru yn
aros yn hwy
na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb; 4.Yn
gresynu bod Ymddiriedolaeth
GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng
cyfanswm nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu
yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf; 5.Yn
gresynu bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd
ynghylch ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol yn
tanseilio’r broses o ad-drefnu’r
GIG yng Nghymru sy’[n digwydd ar
hyn o bryd. 6.Yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i: a)
gynyddu nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu
yng Nghymru; b)
sicrhau bod gan Gymru rwydwaith digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac c)
rhoi sicrwydd y bydd yr adolygiad
Gweinidogol o Ymddiriedolaeth
GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd
ar hyn o bryd yn cyflawni
amseroedd ymateb gwell. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 3: ‘a
bod rhai cleifion nad ydynt yn
cael eu cyfrif
fel galwadau brys categori A yn aros am oriau
mewn poen nes bod ambiwlans ar gael’ Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
6c), dileu ‘cyflawni amseroedd ymateb gwell’ a rhoi'r canlynol yn ei
le: ‘: i)
cyflawni canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac ii)
archwilio pa mor briodol yw’r model annibynnol presennol’ Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru
) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 6: ‘buddsoddi i uwchsgilio a hyfforddi staff presennol y gwasanaeth ambiwlans i lefel parafeddygon.’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.29 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi’r
effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys
ei chael ar iechyd a lles
cleifion; 2.Yn nodi
bod 11 o orsafoedd ambiwlans
wedi cau yng Nghymru ers
2008/09; 3.Yn mynegi
pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru
yn aros yn
hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb; 4.Yn gresynu
bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm
nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros
y blynyddoedd diwethaf; 5.Yn gresynu
bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch
ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol
yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd
ar hyn o bryd. 6.Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
gynyddu nifer
yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu
yng Nghymru; b)
sicrhau bod gan Gymru rwydwaith
digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac c)
rhoi sicrwydd
y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar
hyn o bryd yn cyflawni amseroedd
ymateb gwell.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 3: ‘a bod rhai cleifion
nad ydynt yn cael eu
cyfrif fel galwadau brys categori
A yn aros am oriau mewn poen
nes bod ambiwlans ar gael’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
6c), dileu ‘cyflawni amseroedd ymateb gwell’ a rhoi'r canlynol yn ei
le: ‘: i)
cyflawni canlyniadau
mesuradwy gwell i gleifion; ac ii)
archwilio pa mor briodol yw’r
model annibynnol presennol’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru ) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 6: ‘buddsoddi i uwchsgilio
a hyfforddi staff presennol
y gwasanaeth ambiwlans i lefel parafeddygon.’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi’r
effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys
ei chael ar iechyd a lles
cleifion; 2.Yn nodi
bod 11 o orsafoedd ambiwlans
wedi cau yng Nghymru ers
2008/09; 3.Yn mynegi
pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru
yn aros yn
hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb; 4.Yn gresynu
bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm
nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros
y blynyddoedd diwethaf; 5.Yn gresynu
bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch
ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol
yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd
ar hyn o bryd. 6.Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
gynyddu nifer
yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu
yng Nghymru; b)
sicrhau bod gan Gymru rwydwaith
digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac c)
rhoi sicrwydd
y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar
hyn o bryd yn: i) cyflawni
canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac ii)
archwilio pa mor briodol yw’r
model annibynnol presennol.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5170 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1.Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y
GIG yn gadarn a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth Cymru dros y tymor hir;
a 2.Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno
rhaglen o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd
lle y mae prinder neu lle y rhagwelir hynny. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny: Yn
nodi arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng Nghymru a oedd yn
datgelu anghysonderau mawr yn safon yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai yng
Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a
thechnegau meddygol sy’n fwy modern, i wella’r hyfforddiant a’r cyfleoedd
addysgol i feddygon iau yn ysbytai Cymru a denu rhagor o staff meddygol i
Gymru. Gellir
gweld Arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.gmc-uk.org/National_training_survey_2012_key_findings_report.pdf_49280407.pdf Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ym
mhwynt 2 dileu ‘gyflwyno’ a rhoi ‘ystyried cyflwyno’ yn ei le Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd gyfrannu at
sialensiau recriwtio. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.32 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5170 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol: 1.Yn gresynu
at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y GIG yn gadarn
a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth
Cymru dros y tymor hir; a 2.Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r
afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno rhaglen
o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd
lle y mae prinder neu lle
y rhagwelir hynny.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r
pwyntiau’n unol â hynny: Yn nodi
arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng
Nghymru a oedd yn datgelu anghysonderau
mawr yn safon
yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai
yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a thechnegau meddygol sy’n fwy
modern, i wella’r hyfforddiant
a’r cyfleoedd addysgol i feddygon iau yn ysbytai
Cymru a denu rhagor o staff meddygol i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
2 dileu ‘gyflwyno’ a rhoi ‘ystyried cyflwyno’ yn ei
le Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru
ar hyn o bryd gyfrannu at sialensiau recriwtio. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.31 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5173 Llyr Huws Gruffydd
(Gogledd Cymru): Sgan mewn
pryd – Sgan MRI o’r fron ar
gyfer merched ifanc risg uchel Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.39 NDM5173 Llyr Huws Gruffydd
(Gogledd Cymru): Sgan mewn pryd – Sgan MRI o’r fron ar gyfer merched ifanc risg uchel |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |