Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau
heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Dirprwy Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Y cynnydd a wnaed o ran datblygu Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-20 Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cyllideb Ddrafft 2014-15 Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.00 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Dalu Costau Tai yn Uniongyrchol i Denantiaid yng Nghymru NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau
i gyflwyno taliadau uniongyrchol; 2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar daliadau
uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael effaith
negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol
cymdeithasau tai; 3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau
tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
1, dileu popeth ar ôl ‘â’i
chynlluniau’ a rhoi yn ei le: ‘i
safoni taliadau uniongyrchol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU’ Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 1: ‘sy’n cynnig y potensial i rymuso pobl drwy roi
rhagor o reolaeth iddynt dros eu
harian, a chynnig llwybr cliriach i waith ac annibyniaeth.’ Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu’r
‘Universal Credit Local Support Services Framework’, a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth y DU ac a luniwyd ar y cyd
ag asiantaethau, gan gynnwys Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, sy’n rhestru’r
cymorth sydd ar gael i hawlwyr
y mae angen talu costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid. Gellir gweld
yr Universal Credit Local Support Services Framework drwy fynd i: https://www.gov.uk/government/publications/universal-credit-local-support-services-framework
[Os derbynnir gwelliant
3, bydd gwelliant 4 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn galw
ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus
ar holl ganfyddiadau’r
Prosiectau Arddangos Taliadau Uniongyrchol a fydd yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2013. Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu
y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan,
gan arwain at gostau ychwanegol ar gyfer troi
allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi’r arferion gorau ar waith
er mwyn osgoi
achosion o droi allan. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn
ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion cyllidebu parod ar gael yn
fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini
y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.40 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau
i gyflwyno taliadau uniongyrchol; 2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar
daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael
effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol
cymdeithasau tai; a 3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau
tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
1, dileu popeth ar ôl ‘â’i
chynlluniau’ a rhoi yn ei le: ‘i
safoni taliadau uniongyrchol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 1: ‘sy’n cynnig y potensial
i rymuso pobl drwy roi rhagor
o reolaeth iddynt dros eu harian,
a chynnig llwybr cliriach i waith ac annibyniaeth.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu’r
‘Universal Credit Local Support Services Framework’, a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth y DU ac a luniwyd ar y cyd
ag asiantaethau, gan gynnwys Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, sy’n rhestru’r
cymorth sydd ar gael i hawlwyr
y mae angen talu costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn galw
ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus
ar holl ganfyddiadau’r
Prosiectau Arddangos Taliadau Uniongyrchol a fydd yn dod
i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2013. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu
y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan
arwain at gostau ychwanegol ar gyfer
troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau
lleol a chymdeithasau tai i
roi’r arferion gorau ar waith
er mwyn osgoi
achosion o droi allan. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried
y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion
cyllidebu parod ar gael yn
fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini
y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau
i gyflwyno taliadau uniongyrchol; 2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar
daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael
effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol
cymdeithasau tai; 3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau
tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau; 4. Yn credu y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan
arwain at gostau ychwanegol ar gyfer
troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau
lleol a chymdeithasau tai i
roi’r arferion gorau ar waith
er mwyn osgoi
achosion o droi allan; a 5. Yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried
y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion
cyllidebu parod ar gael yn
fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini
y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) NDM5316 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Gosodwyd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Ionawr 2013; Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron y
Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2013. Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd
gwasnaeth eiriolaeth unigol o ran sicrhau bod buddiannau gorau pobl sy'n
dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol yn cael eu diogelu. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.37 NDM5316 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
pwysigrwydd gwasnaeth eiriolaeth unigol o ran sicrhau bod buddiannau gorau pobl sy'n
dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol yn cael eu
diogelu. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5316 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Yn nodi
pwysigrwydd gwasnaeth eiriolaeth unigol o ran sicrhau bod buddiannau gorau pobl sy'n
dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol yn cael eu
diogelu.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) NDM5317 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.51 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5317 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio
o’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) NDM5318 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru). Gosodwyd Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)
a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Medi 2013.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.53 NDM5318 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
(Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.36 NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru),
yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 18.37 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |