Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 2 a 6 eu grwpio. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 15.09 Simon Thomas (Canolbarth a
Gorllewin Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chyflogau a phensiynau uwch swyddogion
cynghorau yn sgîl adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru? |
||||||||||
Cynnig i atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 11.16 er mwyn caniatáu i NNDM5427 gael eu hystyried (5 munud) Dechreuodd yr eitem am
15.16 NNDM5428
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol
Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol
Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr
wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5427 gael eu hystyried yn y Cyfarfod
Llawn ar ddydd Mercher, 5 Chwefror 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cludo person neu bersonau o dan 18 oed NNDM5427 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud
ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cario person neu bersonau o dan 18 oed,
i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). I weld
copi o’r Bil ewch i: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/childrenandfamilies.html [Saesneg
yn unig] Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.17 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio. NNDM5427
Mark Drakeford (Cardiff West) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud ag ysmygu mewn cerbydau preifat sy’n cario
person neu bersonau o dan 18 oed, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru NDM5420
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sefydlu Academi
Heddwch Cymru / Wales Peace Institute, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24
Hydref 2013. Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.35 NDM5420
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sefydlu Academi Heddwch
Cymru / Wales Peace Institute, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref
2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5421
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwella cysylltedd
ledled Cymru wledig i sicrhau mynediad effeithiol i wasanaethau. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltedd symudol a band eang i
ddatblygu economaidd a chymdeithasol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i edrych ar y system gynllunio er mwyn sicrhau bod rheolau
cynllunio yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith digidol. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi manteision cysylltiad band eang cyflym iawn i’r
economi wledig, a hefyd yn nodi’r effeithiau economaidd negyddol y mae mannau
gwan ar gyfer derbyn band eang ac oedi cyn cyflwyno band eang cyflym yn eu cael
ar ardaloedd gwledig. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllun
cenedlaethol yn cael ei sefydlu i gyflwyno signal symudol 4G ym mhob rhan o
Gymru. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y rhwystrau penodol y mae pobl ifanc yn eu
hwynebu mewn ardaloedd gwledig o ran cael addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu ffyrdd o wella cysylltedd trafnidiaeth yng
nghefn gwlad er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i gael prentisiaethau. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod cysylltedd band eang gwael yn cyfyngu
mynediad at wasanaethau bancio ar-lein mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnwys archwiliad o strwythur banc cymunedol yn y cylch
gorchwyl ar gyfer cynnal adolygiad pellach o fanc datblygu ar gyfer Cymru, er
mwyn cynnal presenoldeb banciau lleol mewn cymunedau gwledig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.20 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5421
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwella cysylltedd
ledled Cymru wledig i sicrhau mynediad effeithiol i wasanaethau.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5422
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod potensial sylweddol adnoddau naturiol Cymru ac yn
credu y dylai rheolaeth lawn dros y defnydd ohonynt gael ei datganoli i’r
Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu popeth ar ôl ‘adnoddau naturiol Cymru’. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid defnyddio adnoddau naturiol Cymru mewn modd
sy’n gynaliadwy o ran yr amgylchedd a’r economi er budd tymor hir pobl Cymru. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd cynlluniau ynni cymunedol i fanteisio ar
ein hadnoddau naturiol yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
amlinellu’r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i wella rhaglen Ynni’r Fro yn
dilyn cyfres o argymhellion yn adroddiad Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro. Mae adroddiad Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro ar gael yn: http://wales.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-ynnir-fro/?lang=cy Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r arbenigedd
a’r gallu eto i weinyddu prosiectau ynni ar raddfa fawr. Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynnal ymchwiliad i sut y gellir datblygu buddion
cymunedol prosiectau ynni; b) cynnal adolygiad o ganiatáu a thrwyddedu prosiectau ynni
adnewyddadwy ar raddfa fach; ac c) gweithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffiniau dwr. Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu rhagor o leoliaeth o
ran defnyddio adnoddau naturiol mewn cymunedau, a rhoi’r un hawliau i bobl
Cymru â’r hawliau sydd gan gymunedau yn Lloegr ar hyn o bryd o dan Ddeddf
Lleoliaeth 2011. Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod camreolaeth Llywodraeth Cymru ar adnoddau pren
naturiol ystâd Coedwigaeth Cymru wedi: a) caniatáu i ardaloedd mawr o goed llarwydd a rhywogaethau
coed eraill fod wedi’u heintio o hyd â phytopthora ramorum; a b) golygu bod clwstwr enfawr o goed llarwydd heintiedig heb
eu torri a dwy flynedd o waith wedi cronni yn y rhaglen torri coed. Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r rhwystrau o ran hyrwyddo ac amddiffyn adnoddau
naturiol Cymru a ddaeth yn sgîl y system gynllunio bresennol. Gwelliant
9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod penderfyniadau ynghylch taliadau CAP wedi rhoi
ffermwyr Cymru o dan anfantais gystadleuol o’u cymharu â gwledydd datganoledig
eraill y Deyrnas Unedig wrth iddynt reoli eu hadnoddau naturiol. Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod camreoli adnoddau naturiol Cymru yn cyfrannu at
ledaenu TB buchol ac yn effeithio ar fywyd gwyllt a chynhyrchu amaethyddol yng
Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5422
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod potensial sylweddol adnoddau naturiol Cymru ac yn
credu y dylai rheolaeth lawn dros y defnydd ohonynt gael ei datganoli i’r
Cynulliad Cenedlaethol.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 18.13 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5388
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Pobl hyn, twyll a throseddau ar garreg y drws Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 18.15 NDM5388
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Pobl hyn, twyll a throseddau ar garreg y drws |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |