Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
| Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:28.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Twf Swyddi Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:47.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Yr Adolygiad o Ddeddfwriaeth ar Ddigartrefedd Dogfennau Ategol
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:19.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad ar Orchymyn y Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012 NDM4928 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012. Dogfennau
Ategol
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.02 NDM4928 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru – y ffordd ymlaen NDM4966 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) ddatblygu’i gweledigaeth uchelgeisiol ar
gyfer bwyd yng Nghymru; c) cefnogi’r diwydiant cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi.
http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/foodandfisheries/foodandmarketdevelopmentpubs/foodstratdoc/?skip=1&lang=cy Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Yn is-bwynt 1a), dileu’r gair “uchelgeisiol”. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediad llawn Pecyn Llaeth yr UE oni ellir dod i gytundeb gwirfoddol ar god ymarfer ar gyfer contractau llaeth rhwng y partïon perthnasol yn y gadwyn gyflenwi llaeth. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn dathlu bod gan gynnyrch o Gymru enw da o’r radd flaenaf ac yn annog siopwyr i werthu rhagor o fwyd o Gymru. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r sector twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o Gymru a gwella cynaliadwyedd. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i israddio’r portffolio Materion Gwledig a'r effaith negyddol y gallai hyn ei chael ar ei gallu i gyflawni’r strategaeth fwyd.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:02. NDM4966 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) ddatblygu’i gweledigaeth uchelgeisiol ar
gyfer bwyd yng Nghymru; c) cefnogi’r diwydiant cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi. Mae Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru – Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 ar gael drwy’r ddolen ganlynol:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Yn is-bwynt 1a), dileu’r gair “uchelgeisiol”. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. *Cafodd canlyniadau’r bleidlais hon eu cywiro ar 14 Mai 2012 i adlewyrchu Cofnod y Trafodion. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediad llawn Pecyn Llaeth yr UE oni ellir dod i gytundeb gwirfoddol ar god ymarfer ar gyfer contractau llaeth rhwng y partïon perthnasol yn y gadwyn gyflenwi llaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Ni chofrestrwyd pleidlais Ann Jones ar welliant 2 oherwydd nam technegol. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn dathlu bod gan gynnyrch o Gymru enw da o’r radd flaenaf ac yn annog siopwyr i werthu rhagor o fwyd o Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r sector twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o Gymru a gwella cynaliadwyedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i israddio’r portffolio Materion Gwledig a'r effaith negyddol y gallai hyn ei chael ar ei gallu i gyflawni’r strategaeth fwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4966 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) ddatblygu’i gweledigaeth uchelgeisiol ar
gyfer bwyd yng Nghymru; b) adolygu ac adnewyddu’r strategaeth fwyd bresennol;
c) cefnogi’r diwydiant cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi;
e) yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r sector twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’; f) yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o Gymru a gwella cynaliadwyedd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ymchwil ac Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol NDM4967 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod ymchwil ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i iechyd, lles a chyfoeth pobl yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i gyllido a buddsoddi’n ddigonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwireddu a gweithredu manteision unrhyw ymchwil newydd, ac yn gresynu y bydd toriadau mewn termau real i gyllidebau’r GIG yng Nghymru yn rhwystro hyn. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fuddsoddiad ychwanegol mewn canolfannau ymchwil yng Nghymru er mwyn denu’r deallusion gorau o bedwar ban byd a chynyddu’r potensial am gydweithio gwerth uchel gyda phartneriaid diwydiannol. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod rôl y Sector Addysg Uwch o ran darparu ymchwil o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i ddarparu atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiadau arloesol i ddigwydd yn y gwasanaeth iechyd yn Felindre, fel therapi ymbelydredd a arweinir gan ddelweddau a radiotherapi abladol stereotactig.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.00 NDM4967 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod ymchwil ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i iechyd, lles a chyfoeth pobl yng Nghymru. Gohiriwyd
y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o
dan yr
eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen i gyllido a buddsoddi’n ddigonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwireddu a gweithredu manteision unrhyw ymchwil newydd, ac yn gresynu y bydd toriadau mewn termau real i gyllidebau’r GIG yng Nghymru yn rhwystro hyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fuddsoddiad ychwanegol mewn canolfannau ymchwil yng Nghymru er mwyn denu’r deallusion gorau o bedwar ban byd a chynyddu’r potensial am gydweithio gwerth uchel gyda phartneriaid diwydiannol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod rôl y Sector Addysg Uwch o ran darparu ymchwil o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i ddarparu atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiadau arloesol i ddigwydd yn y gwasanaeth iechyd yn Felindre, fel therapi ymbelydredd a arweinir gan ddelweddau a radiotherapi abladol stereotactig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4967 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod bod ymchwil ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i iechyd, lles a chyfoeth pobl yng Nghymru. Yn galw am fuddsoddiad ychwanegol mewn canolfannau ymchwil yng Nghymru er mwyn denu’r deallusion gorau o bedwar ban byd a chynyddu’r potensial am gydweithio gwerth uchel gyda phartneriaid diwydiannol. Yn cydnabod rôl y Sector Addysg Uwch o ran darparu ymchwil o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i ddarparu atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiadau arloesol i ddigwydd yn y gwasanaeth iechyd yn Felindre, fel therapi ymbelydredd a arweinir gan ddelweddau a radiotherapi abladol stereotactig.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.45
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |