Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
| Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:19.
Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:25.
Gofynnwyd y cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 1 gan Peter Black. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(1 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i’r Pwyllgor Busnes NDM4994 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru). Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:26.
NDM4994 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:26.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(130 munud) |
Dadl ar Araith y Frenhines NDM4992 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2012/2013.
Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn
Saesneg yn unig):
Dogfennau Ategol: Papur Gwasanaeth Ymchwil – Araith y Frenhines 2012 Gwybodaeth am y Mesurau Seneddol yn Araith y Frenhines a ddarparwyd gan Swyddfa Cymru, Mai 2012 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i gyflawni twf yn yr economi.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Yn croesawu’r Bil Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a roddir, hyd at £5,000.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Yn croesawu’r Bil Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn croesawu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i hymrwymiad parhaus i:
a) lleihau’r diffyg a thrwy hynny sicrhau’r cyfraddau llog isaf erioed yn y Deyrnas Unedig, sydd o fudd i berchnogion tai ledled Cymru;
b) adfer sefydlogrwydd economaidd, gan greu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn croesawu Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:27.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i gyflawni twf yn yr economi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a roddir, hyd at £5,000.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Bil Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i hymrwymiad parhaus i:
a) lleihau’r diffyg a thrwy hynny sicrhau’r cyfraddau llog isaf erioed yn y Deyrnas Unedig, sydd o fudd i berchnogion tai ledled Cymru;
b) adfer sefydlogrwydd economaidd, gan greu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4992 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2012/2013.
Yn gresynu wrth y ffaith nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys unrhyw fesurau ystyrlon i gyflawni twf yn yr economi.
Yn croesawu’r Bil Ynni a fydd yn diwygio’r farchnad drydan er mwyn annog buddsoddiad mewn cynhyrchu carbon-isel ac ynni glân.
Yn croesawu’r Bil Rhoddion Bach a fydd yn galluogi elusennau bach i hawlio 25c yn ôl am bob £1 a roddir, hyd at £5,000.
Yn croesawu’r Bil Diwygio'r Banciau a fydd yn gwahanu gweithgareddau manwerthu’r banciau oddi wrth eu gweithgareddau buddsoddi.
Yn croesawu Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd a chreu swydd Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17:36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4993 Mick Antoniw (Pontypridd)
Plant sy’n Ceisio Lloches a sut y cânt eu hamddiffyn yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU yn llesteirio gallu Llywodraeth Cymru o ran plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Mae diogelu plant yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond mae’r graddau y mae Llywodraeth y DU wedi dehongli ei chymhwysedd a gadwyd ar fewnfudo, sef trin unrhyw fater sy’n ymwneud â cheiswyr lloches, plant sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid fel mater a gadwyd yn ôl, yn cynnwys y meysydd hynny sy’n gymwyseddau a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynd yn groes, mewn sawl achos, i amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dinasyddion Cymru: o ran hawliau plant, cydraddoldeb a gweithio tuag at gymdeithas deg a chynhwysol.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:39.
NDM4993 Mick Antoniw (Pontypridd)