Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan i ben. Bydd y Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan yn cychwyn am 13.30 |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd
yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r
Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.45 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5, 7 i 10, 12 i 13 ac 15. Tynnwyd cwestiynau 6 ac 14 yn
ôl. Ni ofynnwyd
cwestiwn 11. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog
ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.34 |
|||||||||
(90 muned) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.49 |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013 NDM5293 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Credyd
Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru)
2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Mehefin 2013. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 19.47 NDM5293 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Credyd Cynhwysol
(Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013 yn
cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
25 Mehefin 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol - gohiriwyd NDM5259 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r trefniadau archwilio ar gyfer y
Byrddau Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn rhannol oddi fewn i Gymru, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). I weld copi o’r Bil ewch i: Dogfennau
Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2013-14 NDM5278 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30,
yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth,
25 Mehefin 2013. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth
ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar
gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer
cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn
y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu
i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu
talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol
Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r
Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn
a'r rhai blaenorol. Dogfennau
Ategol Addroddiad
Y Pwyllgor Cyllid Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol ar gyfer 2013–2014 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 19.55 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5278 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd
Mawrth, 25 Mehefin 2013. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth
ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar
gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer
cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn
y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu
i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu
talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol
Cymru o dan adran 125(1)(c). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 20.28 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |