Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y
Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 7, 8,
9, 11 a 12 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 Gofynnwyd y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Darren Millar: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.14 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5468
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi pryder y dyfarnwyd graddau annisgwyl o isel i
rai myfyrwyr a safodd fodiwlau Saesneg TGAU ym mis Ionawr 2014; 2. Yn croesawu adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru o'r
sefyllfa; 3. Yn nodi pwysigrwydd ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar
gael i'r adolygiad; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu natur y broses adolygu
a'r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad mewn modd agored a didwyll. Cefnogir
gan: Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.04 NDM5468 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi pryder y dyfarnwyd graddau annisgwyl
o isel i rai myfyrwyr a safodd fodiwlau Saesneg TGAU ym mis Ionawr 2014; 2. Yn croesawu adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru
o'r sefyllfa; 3. Yn nodi pwysigrwydd ystyried yr holl
dystiolaeth sydd ar gael i'r adolygiad; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu natur y
broses adolygu a'r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad mewn modd agored
a didwyll. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5469
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y gwelliant diweddar yn economi'r DU yn sgîl
camau gweithredu Llywodraeth y DU. 2. Yn cydnabod mai 0.7% oedd twf cyffredinol cynnyrch
mewnwladol crynswth y DU ym mhedwerydd chwarter 2013. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y
DU i sicrhau twf economaidd hirdymor. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 1. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le
‘yr amodau economaidd sy’n gwella’. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos dirywiad yn
CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dangosyddion
economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd
er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol. Gwelliant
5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn penderfynu bod angen cymryd camau ar frys i wella ffyniant
economaidd Cymru, yn cynnwys mabwysiadu strategaeth wedi’i seilio ar sgiliau ac
sy’n cael ei harwain gan allforio. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r effaith gadarnhaol y bydd creu mwy na miliwn o
brentisiaethau yn Lloegr ers 2010 wedi’i chael ar economi’r DU ac yn gresynu at
y ffaith bod nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng dros 26%
rhwng 2006 a 2012. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.04 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y gwelliant diweddar yn economi'r
DU yn sgîl camau gweithredu Llywodraeth y DU. 2. Yn cydnabod mai 0.7% oedd twf cyffredinol
cynnyrch mewnwladol crynswth y DU ym mhedwerydd chwarter 2013. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â
Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos
dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu
cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn penderfynu bod angen cymryd camau ar frys i
wella ffyniant economaidd Cymru, yn cynnwys mabwysiadu strategaeth wedi’i
seilio ar sgiliau ac sy’n cael ei harwain gan allforio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r effaith gadarnhaol y bydd creu mwy na
miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers 2010 wedi’i chael ar economi’r DU ac yn
gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng
dros 26% rhwng 2006 a 2012. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos
dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â
Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor. 3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael
eu cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5467
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhwystrau i
gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy: a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru; b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd camau
gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth; c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu cyfleoedd i bobl
anabl; d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion cyflogaeth gwael fel
contractau dim oriau. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Adolygu beth sy’n achosi’r cynnydd mewn llwythi gwaith ac
absenoldeb salwch oherwydd straen ymysg gweithwyr yn y sector cyhoeddus, yn
benodol nyrsys ac athrawon. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le: Croesawu’r cynnydd yn y lwfans personol i £10,000 yn ogystal
ag ymgynghoriad Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau y DU ar gontractau dim oriau. Mae ymgynghoriad Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau y DU i’w
weld yn: https://www.gov.uk/government/consultations/zero-hours-employment-contracts
[Saesneg yn unig] [Os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth yn is-bwynt d) a rhoi yn ei le: Cefnogi arferion rheoli da sy’n sicrhau cysylltiadau da yn y
gweithle a chyflogaeth gynaliadwy. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sgiliau gweithio
wrth galon ei Hadolygiad Cwricwlwm ac Asesu newydd er mwyn lleihau’r rhwystrau
y mae pobl ifanc yn eu hwynebu o ran cyflogaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5467 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â
rhwystrau i gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy: a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru; b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd
camau gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth; c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu
cyfleoedd i bobl anabl; d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion
cyflogaeth gwael fel contractau dim oriau.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 18.50 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5466
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Achub ein Gwasanaethau – Ymgyrch pobl Sir Benfro i gadw
gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.53 NDM5466 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Achub ein Gwasanaethau – Ymgyrch
pobl Sir Benfro i gadw gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|