Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad y Llywydd: Ymgysylltu â Phobl Ifanc (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 13.37

 

Gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn lansio’r dull newydd o ymgysylltu â phobl ifanc.  Esboniodd mai’r weledigaeth yw bod barn pobl ifanc yn cael ei chynnwys ym mhob agwedd ar waith y Cynulliad, ac y bydd tair rhan i’r dull o ymgysylltu â phobl ifanc.  Y rhan gyntaf fydd ymestyn allan: bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan pwy bynnag ydynt ac ym mhle bynnag y maent.  Yr ail ran fydd annog trafodaeth:  byddwn yn darparu amrywiaeth o ffyrdd i bobl ifanc gymryd rhan yn ein gwaith.  Y drydedd ran fydd adborth:  byddwn yn esbonio i bobl ifanc sut y mae eu cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth, fel eu bod hwy ac eraill yn cael eu hysbrydoli i ymgysylltu rhagor.  Yna galwodd y Llywydd ar arweinwyr y pleidiau, a wnaeth ddatganiadau yn amlinellu ymrwymiad eu grwpiau gwleidyddol i ymgysylltu â phobl ifanc.

.

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.43

 

Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 11 ac 13 eu grwpio.

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.29

 

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.

 

(15 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

 

Gofynnwyd y cwestiwn.

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan Bethan Jenkins: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod – y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

 

(60 munud)

5.

Dadl ar Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ynghylch y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

 

Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.53

 

NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

 

Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.26

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig

NDM5557 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2014.

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.06

 

NDM5557 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Cyllid Cymru

NDM5558 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Cyllid Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2014.

 

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.48

 

NDM5558 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Cyllid Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfnod pleidleisio

Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM5559 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Chwarae teg? Amser i ymgynghori ar daliadau comisiwn tecach wrth werthu cartrefi mewn parciau.

 

Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y taliadau comisiwn sy’n daladwy i berchnogion safleoedd pan fo perchnogion cartrefi mewn parciau yn gwerthu eu heiddo.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.25

 

NDM5559 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Chwarae teg? Amser i ymgynghori ar daliadau comisiwn tecach wrth werthu cartrefi mewn parciau.

 

Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y taliadau comisiwn sy’n daladwy i berchnogion safleoedd pan fo perchnogion cartrefi mewn parciau yn gwerthu eu heiddo.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: