Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
Atebwyd cwestiynau 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.02 Gofynnwyd cwestiynau 1-7,
9-11, 13 a 15. Tynnwyd cwestiynau 8 a 14 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 12 i’w
ateb yn ysgrifenedig. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 15.45 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Adfywio Canol Trefi Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.00 |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2014 NDM5598 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r
Weithdrefn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2014. Dogfennau Ategol Gorchymyn
Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2014 Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – dim pwyntiau adrodd Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5598 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn
drafft o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2014
yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
22 Medi 2014. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Uwch (Cymru) NDM5597 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Uwch (Cymru) Gosodwyd
Bil Addysg Uwch (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 19 Mai
2014; Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Bil Addysg Uwch (Cymru)
gerbron y Cynulliad ar 3 Hydref 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.32 NDM5597 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion
cyffredinol Bil Addysg Uwch (Cymru) Gosodwyd Bil Addysg Uwch
(Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 19 Mai 2014; Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Bil Addysg Uwch (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 3
Hydref 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch (Cymru) NDM5596 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n
deillio o'r Bil Addysg Uwch (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r
math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.16 NDM5596 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil
Addysg Uwch (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y
cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol 2013-14 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi
Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a
Hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'. Cewch
weld copi o'r adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn: Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r Bil Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 10 Mehefin 2014 sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar
gyfer masnachwyr mewn pobl ac sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu
gwarchod. Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r ffaith bod gorfodi rhywun i briodi yn erbyn
ei ewyllys yn awr yn drosedd. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob ysgol
aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i adnabod plant sy'n dangos
arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i atal
anffurfio organau cenhedlu benywod. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran
cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng Nghymru dros y 10 mlynedd
ddiwethaf. Gwelliant
6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod parhau i fod yn llofnodwr i'r Confensiwn
Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru. Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r rôl sylfaenol y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol
a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei chwarae wrth ddiogelu a
hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.16 NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn: Nodi Adolygiad Blynyddol
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol'. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r Bil
Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014
sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac
sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r ffaith bod
gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i
adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru
yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oes llawer o
gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng
Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn credu bod parhau i fod yn
llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r rôl sylfaenol y
mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei
chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn: 1. Nodi Adolygiad Blynyddol
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol'. 2. Yn croesawu'r Bil
Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014
sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac
sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod. 3. Yn croesawu'r ffaith bod
gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i
adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig. 5. Yn gofyn bod Llywodraeth
Cymru yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod. 6. Yn gresynu nad oes llawer o
gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng
Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf. 7. Yn credu bod parhau i fod
yn llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru. 8. Yn croesawu'r rôl sylfaenol
y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei
chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.01 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|