Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1–8, 11 a 13-14. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio. Tynnwyd cwestiynau 9,
10 a 12 yn ôl. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.12 Gofynnwyd cwestiynau 1–7,
a 10-13. Tynnwyd
cwestiynau 8 a 9 yn ôl. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl Frys Canfyddiadau’r ymchwiliad i ofal cleifion ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.51 Canfyddiadau’r ymchwiliad i ofal cleifion ar ward Tawel
Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) NDM5772 Kirsty Williams
(Brycheiniog a Maesyfed) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) Gosodwyd
y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y
Cynulliad ar 1 Rhagfyr 2014. Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Lefelau Diogel Staff
Nyrsio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 8 Mai 2015. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 6 Mai 2015. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.18 NDM5772
Kirsty Williams (Brycheiniog a Maesyfed) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5773 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru dros y pum mlynedd
nesaf; a b)
cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn
lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi. 2.
Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud
Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi ynddynt. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
nodi'r feirniadaeth ynghylch strategaeth mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru yn
adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting
Inward Investment'. Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Cynnwys
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: 'datblygu
cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn
ogystal â gwella potensial allforio Cymru.' Gwelliant 3 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnwys
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: sicrhau
bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor
yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn gyson. Gwelliant 4 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnwys
ar ddiwedd pwynt 2: ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn
caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth gorfforaeth yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5773
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i
Gymru dros y pum mlynedd nesaf; a b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru
yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi. 2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth
gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i
fuddsoddi ynddynt.
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi'r feirniadaeth ynghylch strategaeth mewnfuddsoddi
Llywodraeth Cymru yn adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Selling Wales: The Role of
Agencies in Attracting Inward Investment'.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: 'datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu
buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru.'
Derbyniwyd Gwelliant 2. Gwelliant
3 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n
ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn
gyson.
Derbyniwyd Gwelliant 3. Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
Derbyniwyd Gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5773
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i
Gymru dros y pum mlynedd nesaf; b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru
yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi; c) datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i
gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru;
a d) sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru
sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn
gyson. 2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth
gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i
fuddsoddi ynddynt ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i
Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth
gorfforaeth yng Nghymru.
Gwrthodwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5770 Aled Roberts
(Gogledd Cymru): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau
Dynol 1998, a fyddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn gam yn ôl o ran
hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae
Deddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42) i'w gweld yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/42/contents
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi'r ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Geidwadol yn ystod etholiad
cyffredinol 2015 i gyflwyno Bil Hawliau Prydeinig; a 2.
Yn cydnabod bwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion i gyflawni'r ymrwymiad
hwn. Gwelliant 2 – Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu ei bod yn ofynnol bod unrhyw gynnig i ddiddymu, diwygio neu ddisodli
Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cael cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i
fynegi drwy Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.00 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5770
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i
ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a fyddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru
ac yn gam yn ôl o ran hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Derbyniwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.55 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5771
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Môn Mam Cymru: ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.58 NDM5771
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Môn Mam Cymru: ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |