Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
| Nodyn | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1–7, 9-11 ac 13-15. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.25.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ymgysylltiad cyflogwyr â Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.40.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Strategaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.15.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.52.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011; Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2012. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.36 NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011; Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Strategaeth Cymru ar y newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: (a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a (b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Gallwch weld Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Llywodraeth Cymru | Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd :
Adroddiad cynnydd blynyddol cyntaf Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder: a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Ty Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir y targed o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Ty Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau 3 y cant. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon ty gwydr.
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.13 NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: (a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a (b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder: a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir darged 2020 o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau o 3 y cant. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: (a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; (b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd; (c) yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd; (d) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd; (e) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad; a (f) yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.56 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |